The digital home of Welsh culture.

Parti Priodas gan Gruffudd Owen

Literature

Bobi a Sami gan Wil Sam (Gwasg Carreg Gwalch)
Nes i ddisgyn mewn cariad efo’r ddrama yma pan oeddwn i yn yr ysgol. Drama drist efo llawer o ddigrifiwch ynddi, ac mae hynny’n rhywbeth dwi wedi ceisio ei gyflawni efo Parti Priodas

Sut i drefnu Priodas Pum Mil gan Trystan Ellis-Morris, Emma Walford ac Alaw Griffiths (Sebra)
Y gyfrol berffaith i unrhyw un sy’n ymddiddori mewn priodasau! 

Mae bywyd yma gan Guto Dafydd a Dafydd Nant (Gwasg Carreg Gwalch)
Cyfrol o gerddi treiddgar a gonest am Lŷn gyda lluniau arbennig gan Dafydd Nant. Yr union beth i godi hiraeth ar ei phlant alltud! Hon ydi un o’r cyfrolau gorau o farddoniaeth i’w chyhoeddi ers blynyddoedd ac mae Guto yn trafod nifer o’r un themâu sy’n cael eu harchwilio yn Parti Priodas. 

Gwreiddio – awduron amrywiol (Sebra)
Cyfrol o straeon byrion am fyw yn y wlad. Dwi wrth fy modd gyda chasgliadau aml-gyfrannog fel hyn sy’n medru cynnig sawl gogwydd ar un thema fawr. 

Croendena gan Mared Llywelyn (Cyhoeddiadau’r Stamp).
Sgript o ddrama-fonolog ardderchog Mared Llywelyn. Gonest, doniol, teimladwy ac wedi ei gwreiddio yn Llŷn. 

Mae Parti Priodas  ar daith ar hyn o bryd, a chopïau ar gael o’ch siop lyfrau leol. 

SHARE