The digital home of Welsh culture.

Galwad am aelodau Cymraeg eu hiaith!

No Categories Found

Wrth i ddathliadau penblwydd Celfyddydau Anabledd Cymru yn 40 oed ddirwyn i ben mis nesaf, rydyn ni wedi cyhoeddi galwad am fwy o aelodau Cymraeg eu hiaith. Bwriad CAC yw cael Cymru greadigol a chyfartal lle mae pobl anabl yn ganolog i gelfyddydau’r genedl. Mae’r sefydliad yn cael ei arwain gan bobl anabl gan ganolbwyntio ar adlewyrchu profiad byw pobl anabl/Byddar. Yn barod eleni mae CAC wedi cynnal digwyddiadau megis Aildanio: Gwobr Gelf 22-23, Gwobr Gair Greadigol 22-23 a chyfres o Sgyrsiau Ar-Lein gan artistiaid. Yn ogystal a hyn mae nifer o brosiectau a rhaglenni penodol yn rhedeg megis Creadigrwydd yw Camgymeriadau, Trawsgyweirio a Crip Talks. Mae manylion am rhain ar wefan CAC.

Mae CAC yn cyflogi 7 aelod o staff sydd yn arwain gwahanol adrannau i hyrwyddo gwahanol ffurfiau ar y celfyddydau ac yn derbyn arian craidd gan Cyngor Celfyddydau Cymru. Eleni apwyntiodd CAC Cyfarwyddwr Gweithredol newydd – y cyntaf sydd yn Gymraeg ei iaith yn y rôl. Wrth ategu’r alwad, nododd y Cyfarwyddwr newydd Owain Gwilym:

“Eleni rydym wedi datblygu ein gweithgareddau Gymraeg ac yn edrych ymlaen at ddarparu mwy o gyfleodd uniaith Gymraeg yn ystod y flwyddyn nesaf. Rydym yn awyddus iawn i weithio gyda cymaint o artistiaid anabl a/neu Fyddar Cymraeg a modd”.

Hefyd yn ddiweddar apwyntiwyd Rheolwr Cyfathrebu newydd Cymraeg ei hiaith, sef yr artist Cerys Knighton. Ychwanegodd Cerys:

“Mae’n bwysig i gael y cyfle i fynegi eich gwaith a phrofiadau trwy’r iaith rydych chi mwyaf cyfforddus gyda, felly rydyn ni’n awyddus i groesawi mwy o aelodau Cymraeg eu hiaith ac i gefnogi ein haelodau trwy greu mwy o gyfleoedd Gymraeg”.

Ychwanegodd Ałun Llwyd, sydd yn Brif Weithredwr AM yn ogystal â bod yn un o Ymddiriedolwyr CAC:

“Mae’r gwaith mae CAC yn ei gyflawni i gynrychioli a chefnogi artistiaid anabl a Byddar yng Nghymru yn gwbl hanfodol. Rydym yn angerddol am ymestyn ein gwasanaeth fel bod gymaint o artistiaid anabl a Byddar a phosib yn gallu mynegi a chreu drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg”.

Ewch i wefan Celfyddydau Anabledd Cymru am fwy o wybodaeth am sut i ymaelodi.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â cerys@dacymru.com.

SHARE