The digital home of Welsh culture.

Enillydd Cymraeg: Pridd gan Llŷr Titus (Gwasg y Bwthyn)

Literature

Yn ei nofel fer Pridd mae Llŷr Titus yn creu darlun cignoeth ond cyfareddol o fywyd Hen Ŵr yng nghefn gwlad Llŷn. Drwy bedwar tymor y flwyddyn mae ddoe a heddiw, tristwch a llawenydd a holl flerwch byw yn llifo i’w gilydd. Draw yn y caeau mae’r hen gerrig mawr yn llefaru eu doethineb. Ac mae’r Llwynog yn llercian.

 

Un o Fryn Mawr gerllaw Sarn ym Mhenrhyn Llŷn yw Llŷr Titus, sydd erbyn hyn yn byw yng Nghaernarfon. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011, a’r Fedal Ddrama y flwyddyn olynol. Enillodd ei gyfrol gyntaf, nofel ffuglen wyddonol ar gyfer pobl ifainc, Gwalia, Wobr Tir na n-Og yn 2016. Mae Llŷr hefyd yn ddramodydd; llwyfannwyd ei ddrama Drych gan Frân Wen yn 2015 ac mae’n un o sylfaenwyr Cwmni drama’r Tebot. Sefydlodd ar y cyd yn ogystal gylchgrawn Y Stamp a’r wasg Cyhoeddiadau’r Stamp.

 

Yn ôl Megan Hunter:

“Cafodd y pedwar ohonom ein swyno gan y nofel fer ond trawiadol hon. Mae yma symlrwydd a chynildeb cynnes yn y disgrifiadau o’r hyn a wna’r Hen Ŵr ar ei fferm o ddydd i ddydd, ond rhywsut, ar yr un pryd, mae pob brawddeg yn disgleirio o dlysni. “

Yn ôl Savanna Jones:

“Mae’r llyfr yma wedi ein diddori, wedi ein swyno ac wedi ein cyflwyno i arddull newydd yn y Gymraeg. O’r cychwyn cyntaf mae’r awdur dawnus wedi cyfleu darn rhyfeddol ac awthentig sydd yn eich dal o fewn ei fyd. Mae’r cyfeiriad at berthynas pobl gyda lle, newid traddodiad, galar, a tir yn unigryw ac yn eich annog i adlewyrchu ac i gwestiynu fel darllenwr. Gwreiddioldeb y darn oedd wedi ein plesio fel panel. Mae’n llwyddiannus yn y ffordd mae’n ein hannog i fynd ar antur gyda’r prif gymeriad ac i ymrwymo yn ei fyd wrth iddo garlamu drwy daith bywyd.”

SHARE