Mae rhifyn gwanwyn 2023 O’r Pedwar Gwynt yn mentro i ganol trafodaethau llosg ynghylch ailwylltio ucheldiroedd Cymru. Yn ôl Carwyn Graves, mae gweledigaeth George Monbiot yn ei gyfrol ddiweddaraf, Regenesis – sy’n amlinellu dyfodol lle caiff y gyfran helaeth o’n bwyd ei gynhyrchu mewn ffatrïoedd – i bob pwrpas wedi ei gwreiddio ‘yn nhir ffrwythlon myth’ ac nid ‘mewn dealltwriaeth haenog o hanes ecolegol’.
Mae atyniad myth hefyd dan sylw Huw Pryce yn ei ystyriaeth o hanes fel pwnc yn y cwricwlwm newydd i Gymru, a drafodir ganddo yng nghyd-destun gwerslyfrau gwledydd eraill. Yn gefnlen i’w drafodaeth y mae ffilm gan Almodóvar, ffilm sydd ag iddi ddimensiwn hanesyddol cryf, lle mae’r berthynas rhwng y presennol a’r gorffennol yn un arbennig o heriol.
Un sydd wedi mynegi safbwyntiau plaen a chroyw am bwysigrwydd traddodiad a throsglwyddo gwybodaeth o un genhedlaeth i’r llall yw Katherine Birbalsingh – ‘prifathrawes fwyaf llym’ Prydain a than yn ddiweddar ‘tsar’ symudedd cymdeithasol y llywodraeth. Penderfynodd O’r Pedwar Gwynt fynd i’w chyfweld gan holi ei barn am y Cwricwlwm i Gymru. Cyhoeddir hefyd yn y rhifyn hwn gyfweliad â’n Gweinidog Addysg, Jeremy Miles.
Croesawu’r datblygiadau mewn addysg cyd-berthynas a rhywioldeb a wna Sara Penrhyn Jones wrth ystyried tair cyfrol ddiweddar sy’n dadlennu cymhlethdodau hawliau rhyw heddiw. I ddechrau, mae hi’n darllen cyfrol hunangofiannol y Ffrances Vanessa Springora, am ei chamdriniaeth rywiol yn ei harddegau gan awdur adnabyddus. Fe’i hystyrir ochr yn ochr â chyfrol yr athronwraig Amia Srinivasan, The Right to Sex, a thrafodaeth Katherine Angel ar wendidau’r cysyniad o ‘roi caniatâd’, o gydsynio i gyfathrach rywiol. Rhybuddir nad oes amheuaeth bod pornograffi yn rhan o seice pobl ifanc heddiw.
Dyma flas ar bum cyfraniad o blith 35 sydd yn rhifyn gwanwyn 2023 (rhifyn 21). Ewch i’r dudalen gynnwys i gael cip ar y rhifyn yn llawn!
Cewch ddarllen am broblemau ysgrifennu am yr hunan yng ngwaith enillydd Gwobr Nobel 2022, Annie Ernaux (Eluned Gramich), y dychymyg ysbrydol mewn cerddi diweddar (M Wynn Thomas), am Rousseau a’r Hafod (Heather Williams), am ffilmiau digynnwrf Yasujiro Ozu (Ruth Richards), am wersi ein beirdd iau wrth ddeiliaid y traddodiad (Grug Muse, Morgan Owen), am ddylanwad gwobrau cyhoeddi (Casi Dylan), ac am y genhinen drichornel (Siân Melangell Dafydd). Ac mae yna 24 cyfraniad pellach – gan ein colofnwyr, ein hadolygwyr, a Derfel Clarke. Mae’r Rhawnbais yn ei hôl hefyd!