Chwedlau’r Copa Coch: Lladron y Deyrnas Goll gan Elidir Jones a Huw Aaron yw Llyfr y Mis i Blant.
Dyma’r bedwaredd nofel yn y gyfres ffantasi epig, Chwedlau’r Copa Coch. Mae arwyr y Copa Coch yn wynebu eu her fwyaf eto. Y tu ôl i res o fynyddoedd, mae gwlad yn cuddio sy’n llawn bwystfilod o bob math, byddin gyfan sydd am eu gwaed, ac arf sy’n peryglu’r byd.
Nofel i ddarllenwyr hen ac ifanc sy’n hoff o antur, trysor a dyfeisiadau gwyllt…
Dyma flas o’r gyfrol.