The digital home of Welsh culture.

Carthenni Cymreig yn Cael Bywyd Newydd

No Categories Found

Mae ffasiwn yn rhan bwysig o bob rhifyn o gylchgrawn Cara, ac yn rhifyn y gaeaf bydd erthygl lawn am brosiect Blancot.

Prosiect teilwriaeth gynaliadwy yw Blancot, mewn cydweithrediad ag Oasis Caerdydd, elusen ddielw wedi ei lleoli yn ardal Sblot sy’n cynnig croeso a chefnogaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Dechreuwyd y prosiect gan Catherine Davies (Teilwr Bach) yn 2020.

Mae Catherine yn cydlynu ac yn rhedeg gweithdai wythnosol yng nghanolfan Oasis, gan gynnwys dysgu sgiliau teilwra trwy wneud cotiau o hen garthenni Cymreig. Caiff y cotiau eu comisiynu gan unigolion, ac mae’n bosib dewis blanced neu ddod ag un i mewn er mwyn iddi gael ei throi yn got unigryw.

Mae rhoi bywyd newydd i hen garthenni Cymreig nid yn unig yn ffordd o gofio a dathlu ein treftadaeth wlân yng Nghymru, ond hefyd yn hyrwyddo ffasiwn cynaliadwy, gan ei fod yn gwneud defnydd o ddeunydd sydd wedi ei greu eisoes.

Mae egwyddorion ffasiwn araf a chynaliadwy yn bwysig iawn i Catherine, ac mae ei busnes, Teilwr Bach, yn arbenigo mewn teilwra traddodiadol, crefft sydd yn ei hanfod yn broses araf. Mae’n arfer teilwriaeth gynaliadwy hefyd trwy ddefnyddio gwlân cyfoes wedi’i wehyddu mewn melinau gwlân sydd yn dal i weithredu yng Nghymru, gan gynnwys Melin Tregwynt, Melin Teifi a Ffatri Wlân Star, Llanfyrnach, i wneud siacedi a chotiau gaeaf wrth fesur (bespoke).

Mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn Oasis Caerdydd yn dysgu sgiliau gwnïo wrth helpu i wneud eitemau llai o doriadau gwastraff y prosiect, gydag elw’r gwerthiant yn mynd yn ôl i Oasis. Bydd yr eitemau yma, a chotiau hefyd, ar werth yn siopau’r amgueddfeydd dros gyfnod dwy arddangosfa sydd i’w cynnal yn Amgueddfa Wlân Cymru ac Amgueddfa Werin Cymru yn 2024.

Cewch fwy o fanylion am y cotiau, y prosiect a’r arddangosfeydd yn rhifyn gaeaf Cara a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd.

SHARE