Rhwng cwpan pêl-droed y byd a gwleidyddiaeth, ymddengys bod mwy o godi baneri, ac o drafod arnynt, yn ddiweddar. Dwi’n byw mewn gwlad yn Ne America sydd ag agwedd iach a pharchus at ei baner a’i chenedligrwydd ei hun (ac yn sgil hynny, faneri gwledydd eraill). Hynny, yn ogystal â gweld lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol o faneri crybibion ar bolion lamp yn Lloegr, wnaeth i mi gnoi cil ar faneri fel endid symbolaidd.
Yn ystod gwyliau ysgol y 1980au, arferwn weithio mewn siop crefftau llechi yng Nghricieth. Gwneuthurwr cerrig beddau oedd wedi ehangu ei fusnes i werthu swfenîrs i ymwelwyr: clociau tywydd a matiau diod llechen ‘Made in Wales’ yn gymysg â nwyddau plastig o wledydd pell – beiros, cylchoedd allweddi… a phopeth, boed gloc neu inja‑roc, gyda draig a ‘Wales’ wedi’u hargraffu arnynt. Roedd pwcedeidiau o Ddreigiau Coch plastig yn cyhwfan hefyd, yn barod i’w sodro ar dyrau cestyll tywod ar y traeth.
O edrych yn ôl, doedd baner y Ddraig Goch ddim wir yn cynrychioli ’nghenedligrwydd i mi. Doeddwn i mo’i hangen i deimlo’n Gymraes; wedi’r cyfan, rhywbeth i ymwelwyr ei glynu ar oergell oedd hi; arwyddlun ar gae rygbi. Ond er nad oedd hi’n rhan o ’mywyd i adref, yn yr ysgol, yn fy mhentref na ’nhref, baner Cymru oedd hi ac fel cenedlaetholwraig falch teimlwn yn rêl bradwr bob tro y deuai ymdeimlad o ‘crinj’ drosof wrth weld y ddraig a’r Ddraig yn cael ei phuteinio yn y fath fodd.
Yn 2004 mi ganais ‘ffarwél i gastell Cricieth gyda pholyn ar ei ben’ a symud i’r Ariannin. Yma, bob mis Mehefin, dethlir mis y faner ac mae’r 20fed yn ŵyl coffáu Manuel Belgrano, crëwr y faner genedlaethol (ac un o’r arwyr y dysgir amdano bob blwyddyn yng nghalendr y cwricwlwm addysgol, o’r ysgol feithrin ymlaen). Bydd disgyblion blwyddyn 4, mewn seremoni uchel ei pharch, yn datgan ffyddlondeb i’r faner las a gwyn drwy addo ‘ei hamddiffyn, ei pharchu a’i charu, gydag ewyllys gadarn ac ymrwymiad, gan fod yn ddinasyddion rhydd a chyfiawn, a derbyn gydag undod yn eu gwahaniaethau bawb sy’n byw yn ein gwlad’. Ond nid ffansi undydd yw hyn. Caiff y faner ei chyfarch a’i chodi ar bolyn priodol bob bore mewn ysgolion, sefydliadau cyhoeddus a llywodraethol, cyn ffarwelio â hi a’i gostwng ar ddiwedd dydd. Rhaid ei phlygu am allan, gyda’r haul yn ei chanol yn wynebu’r awyr, ac ni chaiff fyth gyffwrdd â’r llawr. Mae ganddi ei chân ei hun (ar wahân i’r anthem genedlaethol) ac ni ddylid ei hanharddu na’i golchi. Yn bennaf oll, drwy’r llu protocolau, dysgir parch ati i’r fath raddau nes ei bod yn ennyn emosiwn gwirioneddol ymhlith Archentwyr. Dyma’r symbol pwysicaf o ryddid, undod, ac ymlyniad at dir y famwlad. Ni theimlais ac ni chlywais sôn am oruchafiaeth ynghlwm â hi, dim ond hyder iach mewn cenedlgarwch.
Dychrynwyd fy mam-yng-nghyfraith rai hafau’n ôl pan welodd un o’m meibion yn gorwedd ar yr hyn a dybiai hi oedd yn Ddraig Goch wleb, dywodlyd ar draeth. Lliain draig oedd o ond iddi hi, dyna’r heresi waethaf erioed! (Wedi hynny, cuddiwn bob bib a chadach draig a gaen’ nhw’n anrhegion, a rhaid cyfaddef i minna deimlo ‘crinj’ arall dro’n ôl pan welais ffrind yn gwerthu mat drws ffrynt draig goch ar Facebook – a’i brynu o, nid i sychu sgidia ond er mwyn sicrhau na fyddai neb arall yn gwneud!)
Dechreuais drwy gyfeirio at bêl-droed; waeth gorffen yn yr un cae ddim. Holais ambell Archentwr yn ddiweddar – pe na bai’r Ariannin yn mynd ymhell yn y bencampwriaeth eleni(!), a fydden nhw’n ffeirio eu crys glas golau a gwyn am grys lliwiau baner gwlad arall er mwyn datgan cefnogaeth dros dro? Gadawaf i chi ddyfalu’r atebion unfryd.
Esyllt Nest Roberts