The digital home of Welsh culture.

Adolygiad: Y Pwll

Literature

gan Nicola Davies. Lluniau Cathy Fisher. (Graffeg)

Llyfr i blant dan 7 oed yn delio â galar.

Fe gawson ni newyddion da’r mis yma, wrth i Lywodraeth Cymru a’r Cyngor Llyfrau gyhoeddi cynllun newydd i gefnogi iechyd a lles plant. Ariannir pecyn o 41 o lyfrau, wedi eu dewis gan arbenigwyr, sy’n helpu athrawon i drafod materion iechyd a lles yn well. Bydd y llyfrau ar gael yn Gymraeg a’r Saesneg gydag adnoddau i gyd-fynd. Gwych!

Darllenwch y datganiad i’r wasg yma:

Roedd y llyfr yma’n fwy dwys nac oeddwn i wedi’i ddisgwyl o edrych ar y clawr. Er ei fod yn trafod pwnc dwys iawn, cefais fy siomi ar yr ochr orau gan y llyfr emosiynol, grymus a theimladwy yma.

Yn syml, mae bachgen a’i dad yn paratoi i adeiladu pwll yn yr ardd, ond cyn i’r prosiect ddwyn ffrwyth, mae’r tad yn marw, gan adael twll gwag ym mywydau’r teulu, yn llythrennol.

Doeddwn i ddim yn disgwyl hynny o gwbl. Heavy stuff. Yn aml, mae llyfrau plant yn aralleirio neu’n siarad o gwmpas y pwnc, ond mae’r stori yma’n trafod marwolaeth y tad mewn ffordd uniongyrchol a phlaen.

Dwi wedi darllen sylwadau gan rai athrawon sy’n dweud na fydden nhw’n darllen y llyfr gyda’u dosbarth oherwydd fod y themâu dwys yn cael eu trafod mewn ffordd di-flewyn ar dafod. Dwi’n teimlo’n wahanol; bod y llyfr yn cynnig cyfle gwerthfawr i drafod pwnc pwysig iawn gyda’r plant lleiaf (pwnc sy’n aml yn cael ei osgoi). Fodd bynnag, mae angen bod yn ymwybodol o sefyllfa plant unigol, a chi sy’n nabod eich plant ar ddiwedd y dydd.

Yn fuan iawn ar ôl i’r adroddwr lenwi’r pwll â dŵr, mae’n torri ac mae’r dŵr yn llifo i’r tŷ gan wylltio ei fam, sy’n bygwth cael gwared ohono. Mae’r pwll anorffenedig yn amlwg yn creu tensiwn rhwng y teulu sy’n achosi i’r adroddwr sgrechian mewn cynddaredd ar ei dad am farw. Caiff poen y bachgen ei gyfleu yn hynod o real gan anrhefn, blerwch a thywyllwch y gwaith celf.

Er nad yw’r pwll yn ddim byd mwy na thwll moel a llwm yn y ddaear i gychwyn, wrth i amser fynd heibio, mae rhywbeth rhyfeddol yn digwydd. Fesul tipyn daw’r pwll yn fyw a chaiff ei lenwi gan fywyd gwyllt, pryfetach a blodau hardd fel Lili’r Dŵr.

Drwy gydol y llyfr, y pwll yw cyswllt y teulu gyda’r tad – rhywle y gallent fynd i fyfyrio, i siarad gydag o ac i gofio amdano. Ar yr un pryd, mae’r pwll yn adlewyrchiad o alar y teulu a’r teimladau cymysg a brofant wrth iddynt symud o’r lle tywyll a llwm ar ôl colli dad, at y gobaith a’r bywyd newydd a ddaw ar y diwedd.

Erbyn diwedd y llyfr, mae fel pe bai’r teulu wedi dechrau dod i delerau â’r golled, ac er eu bod yn ffarwelio â’r hen dŷ a’r atgofion chwerwfelys, mae nhw’n cario ‘syniad’ dad gyda nhw, gan ddatgan y bydden nhw’n creu pwll newydd. Yn union fel y tymhorau, lle daw gwanwyn ar ôl gaeaf, mae llygedyn o obaith ar ddiwedd y stori, sy’n ffordd addas iawn o orffen.

SHARE