English below ***
Syniad gwerth chweil yw’r gyfres ‘Stori Sydyn’ sy’n gwneud yn union beth mae’n ddweud ar y tun (fel yr hen advert Ronseal) – rhoi stori dda, gyflym i chi, am bris rhesymol IAWN! Llyfrau amlbwrpas iawn yw’r rhain – yn ideal os ydych chi’n oedolion, pobl ifanc, dysgu Cymraeg, newydd i ddarllen neu hyd yn oed jest prin o amser! Fe gewch deimlo’r balchder o actually gorffen nofel am chenj gan nad ydyn nhw’n rhy hir.
Defnyddia’r clawr liwiau trawiadol i fachu ein sylw o’r cychwyn gyda melyn a du sydd fel arfer yn dangos ‘Perygl!’ Un cwestiwn sydd gen i am y clawr – ai silhouette o’r awdur ydi hwnna? – [Awdur wedi ateb – Na!]
Cychwynna’r nofel pan mae Nathan (bachgen gwyn) yn cyfarfod Sadia (merch Fwslimaidd) ar fws ac mae’r ddau yn cychwyn cyfeillgarwch sy’n prysur droi fewn i berthynas. Digwyddodd eu sgwrs gyntaf ar y bws dros lyfr – felly bobl, os ‘da chi’n single pringles – anghofiwch am Tinder ac ewch am reid ar fws gyda llyfr da tro nesaf!
Er bod y ddau yn hapus iawn gyda’i gilydd, mae ‘na broblem hiliaeth yng Nghymuned Trelluest (ia, yr enw Cymraeg ar Grangetown – dwi wedi dysgu rhywbeth newydd) ac mae eu perthynas yn codi aeliau rhai yn y gymuned. Yn sicr nid yw tad Nathan, sy’n hiliwr rhonc yn cytuno gyda dewis ei fab. Roedd perthynas y Tad a’r mab yn ddiddorol – mae’r ddau yn gig a gwaed – ond eto – yn ddim byd tebyg. A dweud y gwir, mae gan Nathan gywilydd mawr o’i Dad a’i gredoau.
Am nifer o resymau, ond gan gynnwys y tlodi a’r diweithdra, mae tensiynau’n uchel rhwng y ddwy gymuned a daw’r gymuned Fwslimaidd yn darged i gamdriniaeth hiliol gan gael eu beio am ‘ddwyn ein jobs.’
Prif ddigwyddiad y nofel yw ffrwydrad mewn cyngerdd yn ardal Caerdydd, o bosib yn ymosodiad terfysgol ond ni chawn gadarnhad o hyn. Caiff ein prif gymeriadau eu dal yng nghanol erchylltra’r noson. Roedd y dryswch, yr ofn a’r panig yn y munudau yn dilyn y bom yn fy atgoffa o’r ymosodiad ym Manceinion. Scary.
Fe geir yma ddweud pwerus gan yr awdur sy’n gwneud observation o ba mor sydyn mae’r cyfryngau i symud ymlaen a chwilio am y ‘stori fawr’ nesaf:
“Mae pob trasiedi’n troi’n hashnod. Ond yna daw’r hashnodau i ben a fydd neb yn cofio a fydd dim byd yn newid.”
Yn dilyn yr ymosodiad, ac er nad oes tystiolaeth o bwy oedd yn gyfrifol, mae grŵp o eithafwyr adain dde yn benderfynol o ‘dalu’r pwyth yn ôl’ ac mae torf ohonynt yn ymgasglu er mwyn llosgi’r mosg. Na i ddim sbwylio beth sy’n digwydd nesaf, ond mae’r penodau olaf yn reit frawychus a disturbing. Anodd credu fod pethau fel hyn wedi digwydd go iawn. Tybiwn fod llawer o’r nofel wedi ei ysbrydoli gan bethau sydd wedi digwydd yn ein byd yn barod.
Rhywbeth sy’n nodweddiadol o’r awdur yw ei ddisgrifiadau manwl ac effeithiol. Roeddwn yn hoff iawn o’r trosiad sy’n disgrifio’r tensiwn hiliol fel llosgfynydd Vesuvius, sydd ar fin chwythu. Neu’r syniad o gasineb fel drewdod fishy mecryll: “Mae casineb fel mecryll. Mae’n gadael ei ôl. Mae’n difetha popeth da. Mae’n staenio bywyd.” (ond dwi dal yn hoffi mecryll, sori!)
Efallai fod rhai o enwau defnyddiwr y dynion ar y chatroom braidd yn ystrydebol ac on-the-nose e.e. ‘Brits4Britain, Whiteguy, Angrydude’ ond wedi dweud hyn, yn aml iawn, mae’r idiots yma’n loud and proud gyda’u credoau gwirion. Mae ‘na fwy o’r ‘right wing extremeists’ ‘ma yn ein plith ‘na fyddech chi’n tybio. Mi ddes i ar draws un neu ddau ar fy Facebook fy hun cyn heddiw – cawson nhw eu ‘unfriendio’n reit handi!
Ym mis Mai 2020, yn dilyn llofruddiaeth dyn du yn America gan heddwas gwyn, sbardunodd hyn brotestiadau ar draws y byd gan ailgynnau’r ddadl ar hiliaeth (yn defnyddio’r hashnod #blacklivesmatter #bywydauduobwys.) Mae’r pynciau o hiliaeth a rhagfarn sydd dan sylw yn y nofel yn rhai go iawn a pherthnasol iawn heddiw. Yn ôl y ffigyrau, mae troseddau casineb wedi cynyddu yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf. Mae hiliaeth ac anghydraddoldeb ar sail lliw croen yn rhywbeth sy’n dal i fod yn broblem yma yng Nghymru ac yn ‘bandemig’ yn ei hun. Croesawaf unrhyw beth sy’n agor y drws ar drafodaeth ac yn rhoi’r mater o dan y lach. Mae Pobl fel Ni yn nofel sy’n cychwyn sgwrs am hyn – gallaf weld defnydd addysgiadol da iddo yn ein hysgolion, lle mae angen gwneud mwy o waith ar daclo hiliaeth a rhagfarn. Y genhedlaeth nesaf yw’r gobaith y bydd pethau’n well.
Dyma nofel fer, pacy, sy’n codi cwestiynau mawr, ac un y gallaf argymell yn llwyr. Dwi’n falch fod y nofel yn cloi ar nodyn positif fod cariad yn drech na chasineb:
“er gwaethaf popeth, mae bywyd yn cynnig prydferthwch.”
Amen i hynny.