english below***
Dyma’r ail yng nghyfres Tomos Llygoden y Theatr sy’n mynd a ni ar antur gyda’r llygoden fach wrth iddo orfod achub y dydd unwaith eto. Dwi’n hoff iawn o waith arlunio hardd Leri Tecwyn sy’n dod a byd bach Tomos yn fyw! Er bod maint y llyfr yn fach (sy’n reit handi a dweud y gwir) yn sicr mae ‘na ddigon o stori i’n diddanu- mwy nac oni’n ei ddisgwyl!
Mae actor enwog yn dod i’r theatr ac mae Tomos wedi gwirioni’n lan i gael cyfarfod ei arwr! Y broblem yw, mae Trystan Gwynfyd ap Rhych (trïwch ddweud hwnna drosodd a throsodd yn gyflym!) yn ofn llygod! Mae Tomos bron a marw eisiau ei gyfarfod, ond well iddo beidio â chyflwyno ei hun – fydd ‘na fawr o groeso iddo.
Wyddoch chi be? Mae gan Trystan Gwynfyd gyfrinach enfawr…. mae ei wallt mawr adnabyddus yn ffug – mae o’n foel fel wy! Ar ôl damwain anffodus sy’n achosi i’r wig hedfan i ffwrdd, dim ond Tomos ein llygoden fach arbennig fydd yn gallu achub y dydd cyn i’r actor gamu ar y llwyfan o flaen cynulleidfa fawr. Mae’r ffordd y mae o’n datrys y broblem yn reit ddyfeisgar, chware teg! Mi fydd y plantos yn morio chwerthin pan fydd y ‘gwallt’ yn hedfan i ffwrdd, ac mae’n siŵr o roi gwen ar wyneb unrhyw oedolyn.
Sgwn i os fydd Trystan Gwynfyd a Tomos yn gallu bod yn ffrindiau?
Dwi’n hoff iawn o’r straeon yma gan eu bod nhw’n cadw pethau’n ddiddorol drwy symud ar gyflymder addas, ac mae’r cymeriad bach hoffus jest yn gwneud i chi deimlo’n gynnes tu fewn! Dwi isio Tomos Llygoden fach fy hun yn fy nhŷ rŵan! Mae neges bwysig i garu eich hun fel ac yr ydych hefyd.
Dyma lyfr sy’n addas i blant ifanc ddarllen gyda rhiant, a gan fod eithaf tipyn o ysgrifen ar y tudalennau, byddai’n rhoi digon o her i ddarllenwr annibynnol newydd. Mae ‘na iaith ogleddol a deheuol hefyd sy’n gwneud y llyfr yn berffaith i blant Cymru gyfan!
Dwi’n gwybod bydd ‘na fwy o anturiaethau yn y gyfres yma…