The digital home of Welsh culture.

Adolygiad o “Genod Gwych a Merched Medrus” , gan Medi Jones-Jackson

Literature

The stories of 14 remarkable women!
“This is an inspiring book for girls of all ages by Y Lolfa. I am very pleased that this publisher has recognised women’s huge contribution to our lives – and it is incredible to think that so many of these, which have shaped the world, share some link with Wales.” – Morgan Dafydd

English below***

Mae’r llyfr yn canolbwyntio ar bedair ar ddeg [14] o ferched arbennig sydd wedi cyfrannu at feysydd di-ri fel mathemateg, chwaraeon, meddygaeth, llenyddiaeth, ffasiwn, busnes a mwy! Mae’r ystod eang o ferched, rhai’n hanesyddol a rhai mwy diweddar, yn sicrhau y bydd rhywbeth at ddant pawb.
Caiff pob merch dudalen ddwbl sy’n BYRLYMU â ffeithiau diddorol o bob math, wedi eu cyflwyno mewn ffordd hynod o effeithiol. Mae llyfrau heddiw yn edrych mor atyniadol o gymharu â rhai ers talwm, ond mae’r llyfr yma’n gwthio’r ffiniau ac yn mynd â phethau i lefel arall. Mae gwaith dylunio Dyfan Williams a lluniau modern Telor Gwyn yn ffantastig ac yn gweddu’r llyfr i’r dim. Dwi’n falch fod cymaint o sylw wedi cael ei roi at y dyluniad – maen hynod o drawiadol a chyffrous!
Mae ‘na restr geirfa sydd o gymorth i ddysgwyr ac yng nghefn y llyfr mae llu o weithgareddau difyr i gadw unrhyw un yn brysur am oriau! Ceir hefyd linell amser sy’n rhoi’r cyfan mewn cyd-destun yn daclus.
Y tu mewn i’r cloriau mae enwau llwyth o ferched ifanc o Gymru – sy’n anfon neges bwerus fod pob merch yn ddawnus ac yn rhyfeddol mewn rhyw ffordd neu’i gilydd! Rydym ni’n disgwyl pethau mawr gan y merched yma – efallai y cawn eu hanes yn y gyfrol nesaf ymhen 10 mlynedd!
Er bod y gyfrol yn canolbwyntio ar ferched, peidiwch â meddwl fod y llyfr yn addas i ferched yn unig. Dwi’n meddwl ei bod yn bwysig fod bechgyn hefyd yn cael y cyfle i ddysgu am rai o’r merched nodedig hyn. Fel bachgen, fe wnes i fwynhau darllen y llyfr yn arw a dwi wedi dysgu llawer! (hanes Betsi oedd fy ffefryn)
Byddai’r llyfr yn gwneud anrheg da, neu arf bwerus yn yr ysgol i ddangos nad oes terfyn ar yr hyn y gall merched ei gyflawni. Anelwch am y sêr! Dwi’n sicr y bydd y llyfr yma’n ysbrydoli ac yn annog cenhedlaeth newydd o ferched medrus a genod gwych! Unig anfantais y llyfr yw mai dim ond hanes 14 merch sydd yno!!

Dyma beth mae eraill yn ei ddweud am y gyfrol:
“Rydyn ni gyd wir wedi mwynhau dysgu am y menywod medrus a phwerus, yn enwedig- Angharad Tomos, Jade Jones, Betsi Cadwaladr – mae’r straeon wir wedi ein hysbrydoli ni i ddilyn ein breuddwydion.” – Disgyblion Ysgol Gynradd Mynydd Bach
“Dysgais lawer iawn wrth ddarllen y llyfr, fe ddenodd sylw fy merch 8 oed a bu fy mam yn pori drwyddo gan ganmol, o safbwynt athrawes, llyfr mor werthfawr ydi o. Tair cenhedlaeth o ferched hapus felly!” – Gwenan Mared, Cylchgrawn Barn
“Yn sicr mi fyswn i’n argymell y gyfrol hon i bob un sydd eisiau tanio dychymyg ac ysbrydoli eu plant i feddwl yn uchelgeisiol. Mae’r gyfrol yn addas i ferched a bechgyn ac yn fy marn i.” – Heulwen ac Elsi Davies, mamcymru.wales

SHARE