The digital home of Welsh culture.

Blog Gwadd

Fideo Hud: O Blaenau i’r Southbank

Nôl yn nechrau Mai, Sul gŵyl y banc, es i lawr i’r Southbank. Wedi byw yn Llundain ers dros ddeg mlynedd, dwi’n nabod y bloc mawr concrit ma ar yr afon yn reit dda. Ma’n gartref i lefydd fel y National Theatre, y Royal Festival Hall, a llwyth o bethau eraill. Lle neis, bendant, ond braidd fel byncyr a dwi’n amau wetihiau os di hynny’n gwbl fwriadol.

Mynd o’n i i’r BFI, y British Film Institute, ar ôl cal text gan Rhys Cell i weld screening fel rhan o ŵyl Rip It Up — gŵyl ffilm sy’n edrych ar fywydau pobl ifanc heddiw. Oedd criw CellB am ddangos dwy ffilm hefo’i gilydd. ‘Fideo Hud’ oedd enw’r cyfuniad: y ffilm gyntaf yn gyfres o ddarnau byrion Emyr Ankst, Emyr Ankst vs Andy Warhol, cyn dangos eu ffilm nhw, Glasbren, am fandiau ifanc Blaenau.

Yng ngofod cyntedd y BFI, sy’n fwy o grombil oeraidd na fydda rhywun yn disgwyl, oedd gwaith celf CellB yno i groesawu a chwalu’r mudandod. Yn y cydestyn hwnnw, gan gyflwyno heb ofn, mi ddangosodd gwir ystyr ‘croeso’ i ddeud y gwir. Collage o bethau Cymreig oedd o— pentwr blin ar fyrddau ac ar y waliau o albums, recordiau, magazines, silent disco, posteri, a mwy, a llwyth i heini yn dod o Blaenau fyd. Arwydd o beth oedd i ddod; tyst fod Blaenau a’i phobl ifanc yn eu hanterth rwan cymaint ag erioed ac fod angen i bawb wybod.

Er bod sawl ffilm yn dangos y penwythnos hwnnw, doedd neb arall wedi mynd i’r un ymdrech â chriw Cell i godi twrw am eu ffilmiau. Ma hynny’n bechod, dwi’n siwr, ond mi oedd gweld y cynnig gan Fiedo Hud yn tywynnu dros bopeth arall yn ddigon i roi tân ym moliau y rheini ohnom ni oedd yno a’n nabod ysbryd Blaenau. Ac eto doedd o’n malio dim am fod yn ddwr poeth annifyr dros berfedd sefydliad anghysbell. Dim ond CellB ddoth yno i wirineddol ddeud rhywbeth mae’n debyg.

Gan eistedd yn ein seddi wedyn, yn y theatr ei hun, a’n barod amdani, oedd y profiad o’r ddwy ffilm hefo’i gilydd wrthgwrs yn gampwaith. Y cynta, wedi’w roi at ei gilydd diolch i waith Gwenno Llwyd Till, yn gofnod o egni’r SRG yn ystod yr wythdegau hwyr hyd at y Super Furries. Y llall wedyn, Glasbren, gan Cian Clinc a Yannick Hammer yn dal fflachiadau o awydd bobl ifanc Blaenau i fynegi eu hunain ar eu termau eu hunain: drwy gerddoriaeth ac hefo’i gilydd, yn eu cymuned ac am eu cymuned. Doedd na ddim anheuaeth yn y theatr fod na bedigri i gelfyddyd a cherddoriaeth yr ardal. Oeddo’n slap digon-i-ddeffro rhywun doedd byth di clywed am y lle i ddechrau talu sylw. A dyna ddigwyddodd fyd.

Pur anaml mae ffilm yn gwneud digon i gynhyrfu rhywun nes bod nhw’n dechrau holi am le’r byd a’i orbit, y mil o flynyddoedd nesa a’r dwytha, a pham nad fo Blaenau’n cael ei weld fel canolbwynt llachar y bydysawd. Dyma destun y wibdaith o gwestiwn agoriadol i’r panel (hefo Rhys Ifans wrth ei lyw) a oedd, i fi, y cwestiwn mwya nodweddiadol a geisiwyd. Hwnnw sydd wedi aros hefo fi. Nid achos ei natur wyllt a weird, ond achos dwi’n meddwl mi oedd hwnnw, y cradur oedd yn gofyn y cwestiwn, wir wedi’i gwelti. Mi oedd o wedi cael blas ar foddion y Fideo Hud. Wedi cymryd mwy na sip o’r gwpan – wedi cymryd ar ei gyfle i nofio yn nyfroedd cynnes diwilliant Blaenau.

Be nath daro fi oedd bod Cell, dwry cyfrwng y gwaith ffilm, yn dangos i ni mai Blaenau ydy canol y bydysawd, a’i phobl ifanc yn parhau i roi Big Bang ar ol Big Bang i ni. Does na’m amheuaeth fod Cell yn lwcus iawn o’i bobl ifanc — a bod Blaenau, yn ei thro, yn lwcus iawn o Cell a’i ddiwyd at ddiwylliant tref gynt o ddiwydiant. Dydio’m jyst yn ganolfan lleol; mae o’n ganolfan genedlaethol (ag o bosib, yn un intergalactic) sy’n parhau i gefnogi cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o bobl ifanc.

Mae’r neges yn un clir – byddwch yn effro i’r egni sydd genym ni a gwnewch yn fawr o’r swn. Mi oedd o bron yn ormod i’r Southbank. Mae bandiau fel Swyth, Y Ddelwedd, a Canolmana ar ein stepan ddrws a’n dilyn Llwybrau Llaethog, Ffa Coffi a Gorky’s. Er eich lles eich hunain, ewch i weld Fideo Hud, ewch i Cell pan fedrwch chi, bookiwch gigs i’r bandiau ifanc ma ac ewch i weld nhw’n fyw – newch chi dim difaru.

Cybi Williams

Gwyliwch ‘Glasbren’ ar Am nawr!

SHARE