Heb amheuaeth, T. Llew Jones yw Brenin Llenyddiaeth Plant Cymru ac ar ôl cyhoeddi cymaint o lyfrau gwych – does fawr o syndod. Beth sy’n syndod yw fy mod i wedi anghofio sawl un a heb ddarllen rhai o gwbl! Un peth da am lockdown yw cael y cyfle i ailddarganfod ambell un. Penderfynais ailgydio yn Dirgelwch yr Ogof, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1977, er mwyn gweld a oedd y llyfr yn ‘dal dŵr’ yn 2020.
Waw. Am nofel gyffrous o’r cychwyn i’r diwedd! Hanes smyglwyr pentref arfordirol Cwmtydu yn yr 18fed ganrif a geir yn y nofel hon, a dilynwn hanes un smyglwr yn benodol, sef ‘Siôn Cwilt’. Dyma ffigwr dirgel a chyfrwys sy’n cuddio ei hunaniaeth gyda chlogyn unigryw. Fo oedd ‘Han Solo’ ei ddydd! Bydd darllenwyr ar bigau’r drain eisiau gwybod mwy am y ffigwr tywyll yma.
Yn fuan iawn, fe gawn ein cyflwyno i Watcyn Parri a’i fab, bonheddwyr sy’n berchen ar stad a phlasty’r Glasgoed. Nid yw’r gŵr bonheddig fel tirfeddianwyr eraill; mae’n ddyn caredig iawn gyda phobl y plwyf. Efallai ei fod mymryn yn rhy hael a dweud y gwir! Yn anffodus i’r hen ddyn, fe chwalwyd ei longau dramor, ac mae ei fuddsoddiadau a’i gyfoeth yn eistedd ar waelod y môr bellach. Mae’r rhain yn golledion enfawr i’r busnes ac mae dyfodol y stad yn y fantol. Bydd rhaid i’r hen ŵr glirio ei ddyledion neu bydd y plas yn syrthio i ddwylo rhywun estron.
Yn y cyfamser, mae Bart Thomson, ecseisman (swyddog y gyfraith oedd yn casglu trethi a sicrhau ufudd-dod) wedi dod i’r ardal i roi terfyn ar y broblem smyglo fawr sy’n rhoi enw drwg i’r lle. Yn fuan ar ôl cyrraedd, sylweddolai’r swyddog fod y broblem yn llawer mwy nag ambell i smyglwr, a bod pobl yr ardal i gyd yn cadw’r gyfrinach! Fe fyddech chi’n synnu i glywed am rai o bobl ‘barchus’ y plwyf sydd ynghlwm â’r hen fusnes smyglo ’ma! Wrth wneud ei ymholiadau, daw’r ecseismon ar draws rhwystr ar ôl rhwystr ac fe’i gwelwn yn troi at ddulliau mwy eithafol a chreadigol o geisio dal y smyglwyr.
Brwydr rhwng dau elyn yw prif naratif y stori (y gyfraith yn erbyn y troseddwyr) ac mae Bart Thompson yn obsessed gyda hela ac erlid Siôn Cwilt- ond mae hwnnw un cam o’i flaen bob tro! Er mai’r smyglo yw’r brif stori, mae’r awdur yn llwyddo i blethu sawl is-naratif i mewn yn llwyddiannus iawn. Er enghraifft, mae stori gariad gyffrous sy’n llawn troeon ‘will they/won’t they,’ cenfigen a brad. Cawn hefyd ogwydd arallfydol neu ysbrydol i’r stori gyda’r lleisiau dirgel… Pwy neu beth sy’n gyfrifol am y lleisiau rhyfedd yn nüwch yr ogof tybed?!
Fy hoff beth am y nofel yw sut mae T. Llew Jones yn troi’r syniad o ‘good guy’ a ‘bad guy’ ar ei ben yn llwyr. Fe ddylem ochri gyda swyddog y gyfraith, a bod yn feirniadol iawn o Siôn Cwilt a’i griw, ond o’r cychwyn, roedd yn gas gen i’r ecseismon ac roeddwn i wrth fy modd yn gweld y smyglwyr yn ei drechu bob tro. Bron fel ‘Robin Hood’ – roedd Siôn Cwilt yn ffigwr arwrol oedd yn helpu’r bobl dlawd ac yn ceisio gwneud bywyd yn well. Pan fydd Siôn Cwilt mewn perygl o gael ei ddal – fydd y bobl yn cofio am ei aberth ac yn cadw’n dawel? Pwy ydi o? Beth yw ei enw go iawn?
Llwyddodd yr awdur i hoelio fy sylw o’r cychwyn hyd at y dudalen olaf ac roeddwn i’n bles iawn efo’r diweddglo, er na chefais ateb i bob cwestiwn. Mae iaith y nofel yn safonol iawn ac yn raenus sy’n fodd o ymestyn geirfa. Ar y llaw arall, gall yr iaith ffurfiol yma gael ei gweld yn hen ffasiwn braidd erbyn hyn, a gall fod yn rwystr i rai darllenwyr nad ydynt mor hyderus ac eraill. Yn ogystal â bod yn nofel hynod o gyffrous, mae iddi werth addysgiadol uchel iawn gan ei bod yn llawn disgrifiadau cyfoethog. Yn sicr, dylai athrawon roi cynnig arni gyda dosbarth B.5/6 neu Bl.7. Mi fysa’n bechod mawr petai plentyn yn methu allan ar y stori wych yma am fod yr iaith o bosib yn rhy heriol – mae angen i athrawon ddatblygu ffyrdd creadigol o gyflwyno’r llyfr i ddisgyblion fyddai ddim fel arall yn mentro darllen y nofel. Darllen ar y cyd fel nofel ddosbarth yw’r ffordd orau o wneud hyn.
Llyfr ffuglen hanesyddol yw hwn, sy’n ffenest i’r y cyfnod hwn yng Nghymru – cawn weld bywyd y bobl gyffredin, ond fe sylweddolwn hefyd nad oedd hi’n fêl i gyd ar y bonheddwyr chwaith! Cafodd y llyfr ei addasu yn ffilm yn 2002 sydd hefyd yn arwydd o’i lwyddiant a’i botensial -tydi hyn ddim yn digwydd yn aml yn y Gymraeg!
Dwi wir wedi mwynhau darllen y llyfr yma eto, a byddaf yn mynd syth ymlaen i ddarllen llyfr arall gan yr awdur. Flynyddoedd yn ôl, gosododd yr awdur ‘y bar’ yn uchel iawn ar gyfer llenyddiaeth Gymraeg i blant, ac nid oes llawer o awduron heddiw sy’n gallu efelychu’r hyn a gyflawnodd. T Llew, chi yw’r brenin! Moesymgrymwn ger eich bron!