FFURLFEN GYFLWYNO- cytadleuaeth Gymraeg
CANLLAWIAU – cystadleuaeth Gymraeg
Mae Am yn falch o gyhoeddi bod eu gofod i gyhoeddi llên-meicro gwreiddiol o Gymru, mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn agor eto am fwy o geisiadau. Cafodd Tudalen ei lansio ar ddechrau 2026, gan gyhoeddi darnau gan Catrin Cheung, Rolant Tomos a Bethan Page; gellir eu darllen yma. Y tro hwn, rydym yn falch o ddatblygu Tudalen i fod yn gystadleuaeth ddwyieithiog. Trwy alwad agored, bydd 2 ddarn Cymraeg a 2 darn Saesneg buddugol o lên-meicro yn cael eu dethol gan Banel Beirniadu annibynol a’u rhannu ar wefan Am.
Bydd gofyn am ddarnau o lên-meicro (hyd at 500 gair) yn ymateb i’r thema ‘Haenau’, a hynny i nodi ‘Haenau/Layers’, arddangosfa sydd yn dathlu oes o greadigrwydd llawn lliw Mary Lloyd Jones, sydd ymlaen yn y Llyfrgell yn Aberystwyth tan 10 Ebrill 2027, am ddim. Bydd y darnau buddugol o lên-meicro yn cael eu cyhoeddi ar Am, a bydd yr ysgrifenwyr buddugol yn derbyn cydnabyddiaeth ariannol o £100 yr un am eu gwaith.
Meddai Lea Glyn, Prif Swyddog Cynnwys Am:
“Mae Am yn hynod falch i barhau ein cyd-weithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru i greu’r gofod digidol hwn i gyhoeddi darnau arbennig o lên-meicro. Mae’n hynod o gyffrous y tro hwn i agor y gystadleuaeth i ysgrifennu Saesneg yn ogystal a’r Gymraeg, gan gynnig cyfleoedd mynegiant i garfan ehangach o leisiau newydd”.
Meddai Eluned Gramich, Llyfrgellydd Cynorthwyol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n awdur, cyfieithydd ac yn feirniad ar y gystadleuaeth:
“Mae llên-meicro yn ffurf hynod ddiddorol sy’n herio awduron i gyfleu syniadau, cymeriadau ac emosiynau mewn ychydig iawn o eiriau. Fel Llyfrgell Genedlaethol, rydym yn falch o weithio gydag Am i greu cyfleoedd newydd i leisiau creadigol ledled Cymru gael eu clywed. Wedi’i hysbrydoli gan Haenau, teitl ein harddangosfa gyfredol, mae’r thema’n cynnig man cychwyn cyfoethog i awduron archwilio’r straeon a’r ystyron sy’n gorwedd o dan wyneb pethau. Edrychaf ymlaen at weld sut y bydd ymatebion yn datgelu haenau newydd o ddychymyg, profiad a lle.”
Mae’r canllawiau ar gyfer y gystadleuaeth iaith Gymraeg ar gael yma. Y dyddiad cau i gyflwyno darn o lên-meicro ar y thema ‘Haenau’ yw Rhagfyr 2il, ac mae’r ffurflen gais ar gael yma.
Mae cystadlaeuaeth Saesneg yn cyd-fynd gyda’r gystadleuaeth Gymraeg – os ydych eisiau cyflwyno darn Saesneg, mae’r canllawiau a’r ffurflen gais ar gael yma.