Braf oedd darllen datganiad yr Eisteddfod, yn fuan wedi prifwyl y Garreg Las, eu bod yn ‘bwriadu cyflwyno mwy o fesurau gwyrdd yn y dyfodol’ – canmoladwy iawn. Roedd hi’n Eisteddfod arbennig – heulwen, Super Furry Animals, ac ambell i sgandal. Penderfynais, wrth grwydro’r Maes, fynd i gael sbec ar y Pentref Gwyddoniaeth, lle treuliais ran helaeth o fy amser eisteddfodol fel plentyn yn breuddwydio am ddyfodol fel gwyddonydd. Fe ges i syndod wrth sylwi ar babell gron gydag arwydd mawr arni’n datgan: ‘Valero, diolch am noddi’r Sfferen’. Wel dyma le bendigedig i ddechrau creu Eisteddfod wyrddach!
Valero yw un o burwyr a marchnatwyr olew diwydiannol mwya’r blaned, yn prosesu 3.2 miliwn o gasgenni olew yn ddyddiol, sy’n cyfateb i ddwy flynedd o allyriadau carbon Cymru gyfan. Mae’n gyflogwr mawr yn Sir Benfro, ond busnes budr yw puro olew, ac mae’r weithred o farchnata olew’n waeth fyth. Oes, mae angen olew arnom ni i gyd mewn rhyw fodd – alla i ddim gwadu hynny. Ond mae hefyd yn ffaith (yn ôl unrhyw wyddonydd gwerth ei halen) fod angen enbyd i ni ddatod ein cymdeithas o grafangau (a dylanwad) diwydiannau ffosil er lles y blaned a’i holl drigolion. Eironi pen‑i‑waered felly oedd gwobrwyo’r Athro Siwan Davies â’r Fedal Wyddoniaeth am ei gwaith ar newid hinsawdd, mewn pabell wedi ei noddi gan un o’r diwydiannau sydd fwyaf ar fai am y newid hinsawdd hwnnw.
Beth yw sail diddordeb cwmni Fortune 500 fel hyn yn ein Heisteddfod, a’i gyfranddalwyr mwyaf yn cynnwys BlackRock a Grŵp Vanguard (buddsoddwyr mwya’r byd mewn tanwydd ffosil, a gyhuddwyd o ‘ymelwa ar hil-laddiad’ yn Gaza gan un o gynghorwyr hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig)? Mewn gair – marchnata. Dydi’r ffaith fod gan gwmnïau fel y rhain y ffasiwn ddiddordeb mewn defnyddio’n celfyddydau a’n chwaraeon i werthu eu cynnyrch afiach ddim yn newydd; mae diwydiannau felly wedi ceisio dwyn sglein y celfyddydau a champau athletaidd ers iddynt fod mewn bodolaeth. Dwi’n rhy ifanc i gofio’r gafael oedd gan y diwydiant baco ar chwaraeon yn y 1970au a’r 90au, ond i rywun fel fi a fagwyd yn y 2000au, mae’n anhygoel fod y fath beth erioed wedi bod yn dderbyniol. Felly y bydd ein plant yn edrych ar nawdd gan gwmnïau olew yn y pen draw – camgymeriad hyll a chywilyddus. Oes, mae’n rhaid ariannu’r Eisteddfod, ond oes rhaid gwneud hynny fel hyn? Nid cyfle i farchnata cwmnïau mwyaf dinistriol y byd ddylai’r Eisteddfod fod – hyd yn oed un â changen leol. Os am gael Eisteddfod foesegol, werdd, rhaid dilyn esiampl Gŵyl y Gelli a derfynodd eu perthynas â Baillie Gifford yn 2024 oherwydd eu cysylltiad ag Israel a’r diwydiant olew,, ac Amgueddfa Wyddoniaeth Llundain a ddiweddodd eu dibyniaeth ar gwmni olew Equinor yn yr un modd.
Wrth yrru adre o’r Eisteddfod ddechrau’r wythnos, gwelais gwmwl od ar y gorwel i’r gogledd. Wrth agosáu gwelais nad cwmwl ond mwg oedd yno, yn codi’n un llen llwyd anferth o’r fflamau oedd wrthi’n lladd coedwig Llanwynno yn y Rhondda. Erbyn diwedd yr wythnos roedd y fflamau wedi diffodd yn y Rhondda, ond wedi atgyfodi draw ar Fynydd Llangatwg, fel gêm erchyll o whack‑a‑mole. Er yr holl ddadlau a’r cyhuddiadau mai ailwylltio neu gyfyngu ar ddefaid yn pori sydd wedi achosi i’n bryniau droi’n olosg, y gwir yw bod hinsawdd newydd yn perthyn i’n hafau ni. Ac esgeulustod yw peidio â dilyn yr edefyn hwnnw o fflamau’r Rhondda draw at arian budr y Pentref Gwyddoniaeth. Gobeithio na welwn y fath beth eto.
Eben Myrddin Muse
Mae Eben Myrddin Muse yn ysgrifennwr ac yn ffisegydd sy’n gweithio fel ymchwilydd ym maes cynaliadwyedd ac yn ymgyrchydd amgylcheddol.