Mae’n gydnabyddedig bod heriau mawr yn wynebu ieithoedd llai eu defnydd ym myd y cyfryngau cymdeithasol yn wyneb goruchafiaeth y Saesneg. Ond mae cynllun newydd yng Nghatalonia i fynd i’r afael â hyn yn cynnig ffordd ymlaen bosib i ieithoedd fel y Gymraeg.
Pan ddechreuodd Alys‑Mai Walters ei chyfrif TikTok doedd hi ddim wedi meddwl am ba iaith i’w ddefnyddio, ac fel myfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd roedd hi’n naturiol iddi wneud fideo’n cofnodi diwrnod ym mywyd myfyriwr yn Gymraeg. Cafodd y fideo hwnnw ei weld gan 10,000 o bobl dros nos ac fe wnaeth yr ymateb ei hysgogi i bostio mwy o fideos. Ei ffrindiau oedd yn rhoi sylwadau i ddechrau. Erbyn y trydydd fideo roedd dieithriaid yn gadael negeseuon yn dweud mor braf oedd clywed y Gymraeg ar TikTok.
‘Fi’n anelu am 10,000 o ddilynwyr erbyn diwedd y flwyddyn,’ medd Alys‑Mai, sy’n byw yn Llanelli ac yn gweithio fel cydlynydd cyfryngau cymdeithasol i Tinopolis.
‘Sai’n ysu i ’neud pethe Saesneg a dweud y gwir. Fi’n ’neud trends Saesneg ond pan fi’n ’neud UGC organic [cynnwys sy’n cael ei greu gan gwsmeriaid brand neu gynnyrch ohonynt eu hunain yn hytrach na bod cwmnïau’n talu iddynt amdano], mae wastad yn Gymraeg. Ond mae’r ddadl yn codi wedyn – ife’r unig ffordd i gael dilyniant da yw trwy ’neud pethe’n Saesneg? Felly fi’n trio gweithio mas os dylen i bostio’n Saesneg, ond fi’n mynd i drio cario ’mlaen i bostio’n Gymraeg.’
Os yw ffigurau Comisiynydd y Gymraeg yn gywir, mae 80% ohonon ni sy’n siarad yr iaith yn troi at y Saesneg i gyfathrebu ar‑lein, felly mae Alys‑Mai mewn lleiafrif bach sy’n postio’n rheolaidd yn Gymraeg. Ond mae cynllun newydd yng Nghatalonia sy’n ceisio annog mwy o bobl i bostio mewn Catalaneg yn hytrach na Sbaeneg.
Llwyfan digidol yw Lla Llista sy’n rhestru cynhyrchwyr cynnwys Catalaneg, gan eu categoreiddio nid yn unig o ran thema – er enghraifft bwyd, hiwmor, neu ffasiwn – ond hefyd o ran llwyddiant, yn seiliedig ar ddata am eu hymgysylltiad a’u dylanwad ar‑lein. Mae’r trefnwyr yn gobeithio rhannu’r cynllun ag ieithoedd lleiafrifol eraill – gan gynnwys y Gymraeg – o’r mis Medi hwn ymlaen.
‘Ry’n ni’n cyhoeddi’r data yma bob mis,’ medd Dr Carmina Crusafon, Athro Cysylltiol yn Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Autonorma de Barcelona. ‘Mae’n golygu ei fod yn ddefnyddiol i fusnesau sydd eisiau hysbysebu a dod o hyd i gynhyrchwyr cynnwys pwrpasol. Y nod yw proffesiynoleiddio gwaith y cynhyrchwyr cynnwys a dangos bod modd gwneud bywoliaeth drwy bostio mewn Catalaneg.’
Mae dros 1,260 o gynhyrchwyr cynnwys Catalaneg ar y rhestr, gyda’r iaith yn cael ei siarad gan 10 miliwn o bobl yn Nghatalonia, Valencia, yr Ynysoedd Balearaidd, Andorra a gogledd Catalonia (sy’n rhan o Ffrainc). Mae Dr Crusafon hefyd yn gobeithio y bydd casglu’r data yn helpu monitro’r defnydd o Gatalaneg ar‑lein a dylanwadu ar bolisi’r llywodraeth. ‘Ry’n ni eisiau dangos i’r byd bod modd hybu ieithoedd lleiafrifol drwy gynhyrchwyr cynnwys,’ meddai.
Un sy’n gyffrous am y cynllun yw’r Athro Elin Haf Gruffudd Jones, un o sefydlwyr Pluriling Media sy’n hybu defnydd ieithoedd lleiafrifol yn y byd cyfryngol rhyngwladol. Er hynny mae hi’n cydnabod y byddai’n fwy heriol i gynhyrchwyr cynnwys lwyddo i wneud bywoliaeth fel dylanwadwyr uniaith Gymraeg na chynhyrchwyr Catalan, yn bennaf oherwydd bod llawer llai ohonon ni’n siarad Cymraeg.
Mae tîm pêl‑droed Barcelona yn rhan o Lla Llista yng Nghatalonia, ac mae Dr Gruffydd Jones yn meddwl bod gan frandiau poblogaidd rôl i’w chwarae yng Nghymru. ‘Pan ti’n edrych ar gynnwys cyfryngau cymdeithasol Cymdeithas Bêl‑droed Cymru mae faint o gynnwys Cymraeg maen nhw’n ei roi allan wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y deg mlynedd diwethaf,’ meddai. ‘Mae angen i fwy o gymdeithasau fel y Gymdeithas Bêl‑droed wneud cynnwys yn Gymraeg a falle bydd rhywbeth fel hyn yn eu hysgogi nhw. Ni hefyd angen mwy o unigolion i ddod drwy’r system.’
Un o’r dulliau mae trefnwyr La Llista yn eu defnyddio i geisio annog mwy o gynhyrchwyr unigol i bostio mewn Catalaneg yw gwobrau mawreddog CRIT – ‘tebyg i’r Oscars’ ond i gynhyrchwyr cynnwys. Enillydd Gwobr Cynhyrchydd Cynnwys Gorau’r Flwyddyn (Millor Creadora de l’Any) CRIT ym mis Mai eleni oedd Laura Grau, 30 oed, sydd wedi bod yn postio ar Instagram yn bennaf ers 2018 ac sydd â 66,500 o ddilynwyr.
‘Pan ddechreuais i bostio, doedd gen i ddim unrhyw ddyhead i wneud bywoliaeth nac ennill arian,’ meddai Laura. ‘Doedd e ond yn rhywbeth o’n i’n ’neud am hwyl,’ meddai o’i chartref yn Barcelona. Roedd hi’n fyfyrwraig ar y pryd, yn astudio i fod yn athrawes ysgol gynradd. ‘Ro’n i’n lwcus i fod yn y lle iawn ar yr amser iawn achos ro’n i gyda’r cyntaf i ddechrau postio fel hyn yn fy iaith fy hun. Felly ro’n i’n rhan o genhedlaeth oedd yn arbrawf i’r diwydiant cyfathrebu.’
Yn hytrach na mynd i’r byd addysg, cafodd Laura swydd fel cyflwynydd radio ar sail ei dilyniant ar‑lein anferth. Erbyn hyn, mae’n gynhyrchydd cynnwys llawn amser. ‘Galla i ddweud nawr ’mod i’n ’neud bywoliaeth fel cynhyrchydd cynnwys Catalaneg, gallaf,’ meddai. ‘Ar y dechrau, roedd gorsafoedd radio oedd yn ceisio bod yn cŵl ac ifanc yn ein talu ni i ’neud stwff. Ac wedyn daeth y cwmnïau preifat, fel asiantaethau marchnata oedd eisiau i ni hyrwyddo stwff iddyn nhw – fel archfarchnadoedd, diodydd a banciau hyd yn oed.’
Ond i Laura mae aros yn driw i’w gwerthoedd yn bwysig. ‘Dwi wedi cael ceisiadau gan frandiau i bostio yn Sbaeneg neu i roi isdeitlau Sbaeneg. Ond dwi wedi gosod llinell goch nad ydw i’n ei chroesi a dwi ond yn postio mewn Catalaneg, achos dyma fy iaith i. Hefyd mae’n ’neud synnwyr achos dyna’r iaith mae fy nghynulleidfa i’n ei defnyddio hefyd. Felly dwi’n dweud wrth frandiau ei fod yn ’neud synnwyr iddyn nhw yn ogystal.’
Mae Laura’n teimlo bod y diwydiant digidol Catalaneg yn tyfu’n aruthrol ar hyn o bryd gyda rhwng pymtheg ac ugain o gynhyrchwyr cynnwys yn gwneud bywoliaeth a rhyw gant ar ben hynny yn creu cynnwys fel modd o ychwanegu at eu hincwm o’u prif swydd. Ond mae ganddi deimladau cymysg am gyfraniad Lla Llista i’r diwydiant.
Iddi hi, roedd y noson wobrwyo CRIT yn ‘crinj’ wedi i’r trefnwyr wahodd cynhyrchwyr cynnwys o Gatalonia sydd fel arfer yn postio yn Sbaeneg i gyflwyno’r gwobrau. ‘Roedd hi’n rhyfedd i bawb,’ meddai.
Mae hi’n dweud bod 3Cat, y sianel Gatalaneg, hefyd yn gallu achosi tensiwn drwy roi llwyfan a swyddi cyflwyno i ddylanwadwyr o Gatalonia sydd wedi dod i enwogrwydd drwy bostio yn Sbaeneg nid Catalaneg. ‘Maen nhw’n gobeithio, drwy roi llwyfan i’r bobol yma, y bydd eu holl ddilynwyr yn dod at 3Cat. Ond beth maen nhw’n ei wneud yw normaleiddio’r syniad, os ydych hi’n cael llwyddiant yn Sbaeneg gewch chi lwyddiant mewn Catalaneg.’
Dywed Laura mai’r hyn sy’n eu hysgogi hi i ddal ati yw nid gwobrau ond ymateb ei chynulleidfa. ‘Yn y diwydiant yma, mae’r ffigurau yn dangos i chi pa mor llwyddiannus ydych chi. Does dim angen gwobrau na rhyw restr. Oes, mae angen proffesiynoleiddio creu cynnwys drwy Gatalaneg. Does yna ddim ateb amlwg. Ond mae angen mwy o fuddsoddiad yn sicr.’
Fel un o sefydlwyr asiantaeth ddigidol Libera, sy’n arbenigo mewn creu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, cred Elan Iâl Jones bod gan y cynllun botensial. ‘Mae’n bendant yn rhywbeth basen ni’n gallu ei efelychu yng Nghymru.’ Mae’n dweud bod trafodaeth eisoes am y posibilrwydd o ddechrau noson wobrwyo ond bod llawer i’w ystyried. ‘Byddai angen meddwl am prestige y peth. Mae angen iddo fod yn apelgar a secsi. Sut wyt ti’n ’neud hynna?’
Yn ôl Elan, byddai angen ystyried pwy sy’n cyflwyno’r gwobrau, pwy sy’n rhan ohonyn nhw ac a ydi’r gwobrau o fudd i’r unigolion y tu hwnt i hybu’r iaith Gymraeg. ‘Ydi’r gwobrwyo’n rhoi arian i’r enillwyr neu fynediad pellach i’r diwydiant? Mae angen ystyried pwy sy’n dewis pwy sy’n ennill pa wobr a be ’di’r meini prawf. Hefyd, pa mor ddylanwadol ydi’r cynnwys i ddiwylliant – ac ydi hynny oherwydd yr iaith neu’r nifer sy’n edrych arno neu nifer y dilynwyr?’
I Alys‑Mai yn Llanelli, mae’r gwobrau’n swnio fel modd o roi hyder i gynhyrchwyr cynnwys, fel hi, sy’n ceisio torri drwodd. Mae hi eisoes wedi cydweithio â brandiau i greu cynnwys am dâl a byddai wrth ei bodd yn gwneud bywoliaeth fel dylanwadwyr eraill. ‘Bydden i’n lico ’neud e’n Gymraeg ond fi’n meddwl bydde angen i fi ’neud e’n ddwyieithog i gael tâl digonol.’
Mae’n dweud y gallai system rhestru‑yn‑ôl‑llwyddiant fel Lla Llista ei hannog i weithio’n galetach i gyrraedd ei nod.
Gwenfair Griffith