Cartref digidol diwylliant Cymru.

Toriadau Radio Cymru

Llenyddiaeth
Image of Radio Cymru presenters

‘Dyma Radio Deallus yn darlledu i’r genedl’.

Mae’n gas gen i siomi’r darllenwyr, ond nid cyhoeddiad am na thro pedol na coup d’etat mo’r uchod. Ffantasi ar y pryd oedd o rhyngof i a chyfaill, ddegawdau’n ôl, wedi i ni arswydo o glywed rhyw enghraifft waeth na’i gilydd o anwybodaeth ar ran cyfrannwr i un o raglenni Radio Cymru. ‘Tasat ti a fi yn rhedeg gorsaf radio’… ‘Radio Deallus, hwnna ydi o!’

Yr hyn sy’n fy nychryn heddiw yw nid yn gymaint treigl amser, ond meddwl mai’r perygl yn awr yw’r bygythiad i fodolaeth gwasanaeth safonol. Mae hynny’n waeth o lawer na chamgymeriadau chwerthinllyd gan ambell i ymchwilydd dibrofiad neu gyfranwyr ddylai wybod yn well.

Mae amserlenni a rhaglenni unrhyw orsaf radio yn rhwym o newid: yn wir, dyna’u natur, a’u rhinwedd. Buan iawn y collir diddordeb, a gwrandawyr, o redeg yn dragywydd yn yr un rhigolau. Ond nid dyna sydd dan sylw y dyddiau hyn: bydd effaith y toriadau arfaethedig i gyllid y Gorfforaeth ar Radio Cymru yn benodol yn golygu llawer mwy na newid rhaglenni, neu golli ambell i hen ffefryn. Wrth gwrs, daeth y datganiadau swyddogol yn sgil y sôn am ddileu Dros Ginio, a chanibaleiddio Dros Frecwast, yn dweud bod ‘BBC Cymru, fel pob rhan arall o’r sefydliad, yn gorfod cyfrannu [at y toriadau] tra’n ceisio diogelu ansawdd’.

Sylwer – gorfod torri; ceisio diogelu. Yn hollol. Nawr, nid cwyn sydd yma gan rywun o genhedlaeth hŷn ynghylch y symud i lwyfannau digidol a phodlediadau; dyna fyd y cyfryngau oll heddiw, sydd i’w groesawu. Ond mae gweld y BBC yn derbyn yn ddigwestiwn mai dyma fydd yn digwydd, ar draul yr hyn sy’n gosod y gorfforaeth ar wahân fel darlledwr cyhoeddus, yn achos pryder.

Os bu angen erioed yng Nghymru am ddadansoddi gwleidyddol a lledaenu gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd mewn llywodraeth ar bob lefel, nawr yw’r amser. Ar yr olwg gyntaf, mae myrdd o gyfryngau eraill yn gwneud hyn. Ond ystyriwch am ennyd pwy a beth sydd y tu ôl i gymaint ohonynt. Diddordebau masnachol – iawn, fedr y byd ddim byw heb fasnach. Perchenogion o dramor – o ba wledydd, a chyda pha agenda? Pleidiau a diddordebau gwleidyddol – a dyna ni eisoes ar y llwybr llithrig ymaith oddi wrth safbwyntiau diduedd. O ystyried mor enbyd dlawd yr ydym yng Nghymru o ran cyfryngau newyddion cynhenid, mae hyn yn fwy na sefyllfa anfoddhaol – mae’n beryglus i hanfod democratiaeth.

Dechreuais trwy sôn am jôc gyda chyfaill (ymadawedig bellach) am ansawdd gwasanaeth darlledu. Mae’n siŵr gen i y byddai’n troi yn ei fedd o ddeall yr hyn sy’n digwydd i’r BBC heddiw. Yn wir, syndod nad ydym oll yn teimlo’r daeargrynfeydd a grëwyd o gael cenedlaethau o arloeswyr a phencampwyr darlledu safonol yn y Gymraeg yn chwyrlïo mewn arswyd yn eu beddau. Ac nid y meirw’n unig sy’n arswydo. Dyna un llygedyn o oleuni – fod ein darlledwyr a sylwedyddion sy’n gweithio yn y maes heddiw yn fyw i’r perygl real hwn. Does ond gobeithio y clywir eu lleisiau deallus.

Meg Elis

Mae Meg Elis yn awdur nofelau a storïau byrion, ac yn darlledwraig brofiadol ar radio a theledu.

RHANNWCH