Cartref digidol diwylliant Cymru.

The Blue Pool – Ffilm gan Liam Martin

Collodd yr artist Cymreig Daniel Lazenby ei fab dridiau ar ôl iddo gael ei eni. Gan ddianc i’w stiwdio yn yr atig, treuliodd Daniel y pedair blynedd ganlynol yn peintio ei fyd mewnol. Bellach, mae ei arddangosfa unigol gyntaf yn agor, ac mae’r gwaith personol hwnnw’n cael ei rannu â’r cyhoedd. Wedi’i greu’n wreiddiol ar gyfer Her Gwneuthurwyr Ffilm Sheffield DocFest 2026, mae ‘The Blue Pool’ yn dilyn llais Daniel wrth iddo lywio trwy alar a thabŵ, yn erbyn cefndir ei baentiadau archwiliadol a mynegiannol.

RHANNWCH