Cartref digidol diwylliant Cymru.

Stori dda am bobl go iawn

Llenyddiaeth

Mwynhaodd CERIAN ARIANRHOD y nofel ddirgelwch hon, yr ail gan yr un awdur yn dilyn hynt a helynt y gohebydd teledu chwilfrydig Bethan Morgan.

Y Ferch ar y Traeth
Catrin Gerallt
tt. 284, Carreg Gwalch, £9.99

Fe lansiwyd Y Ferch ar y Traeth yn ystod Eisteddfod y Garreg Las, a pha le gwell i lansio nofel lawn disgrifiadau prydferth o Sir Benfro. Mae Carn Ingli a thraethau’r sir yn gefnlen i’r stori wrth i Bethan Morgan fynd ar drywydd antur arall. Ac os digwydd i chi brynu’r nofel i’w darllen tra byddwch ar eich gwyliau haf, yna mae’n ddewis da.

Wrth ymweld â’i mam mae Bethan yn clywed bod pobl yn dod i’r ardal er mwyn baetio moch daear. Mae hynny’n ennyn chwilfrydedd y newyddiadurwraig, ac mae’n dwyn perswâd ar ei bòs i adael iddi dreulio mwy o amser yn y gorllewin yn ymchwilio. Ond buan iawn mae Bethan yn baglu ar draws stori arall hefyd pan gaiff achlust fod cyffuriau’n cael eu smyglo o Iwerddon. Yn ogystal ag ymchwilio i’r ddwy stori mae Bethan yn parhau i jyglo ei chyfrifoldeb fel mam sengl (gyda chyn‑ŵr sydd ddim cweit yn tynnu ei bwysau), bywyd carwriaethol cymhleth a disgwyliadau bos di‑glem. Gan wisgo fy het gwaith, cefais fy hun yn gofyn beth oedd ar feddwl Selwyn yn penderfynu trefnu rhaglen drafod fyw ar ddiwedd y tymor gwleidyddol, rhwng y Sioe Frenhinol a’r Steddfod? Fe fues i’n grwgnach gyda Bethan am y ffwlbri yna.

Dyma ail nofel Catrin Gerallt am Bethan Morgan, a’m ffefryn hyd yma. Roedd y nofel gyntaf, Y Ferch ar y Cei, yn ddifyr, ond mae mwy o ôl golygu ar Y Ferch ar y Traeth, sydd gan tudalen yn fyrrach na’i rhagflaenydd. Serch hynny nid yw’r hyd, nac ychwaith cyfnewid isfyd tywyll Caerdydd am olau ac ehangder Sir Benfro, yn golygu bod y stori yn symlach; mae sawl tro yn y nofel, druan â Bethan, a diweddglo yr un mor ddramatig. Ond mae’r stori yn symud yn gyflymach a mymryn yn fwy ystwyth na’r un flaenorol.

Os ydych yn mwynhau nofelau gyda chymeriadau benywaidd diddorol, rhai sy’n teimlo fel pobl go iawn, yna mynnwch gopi o Y Ferch ar y Traeth. Mae Bethan ei hun yn sicr yn gredadwy, gyda’i hiwmor, ei hormonau rhemp a meddwl sy’n gwibio’n ddi‑baid rhwng gofynion y cartref a gofynion gwaith. Ond hefyd cawn gwrdd ag Eirlys, mam Bethan sydd, er ei hoed, yn dal yn bendant ei barn a’i gweithredoedd; person annoeth fyddai’n meiddio croesi Eirlys. Yna mae Gwenno, ffrind Bethan, sydd wedi symud yn ôl i Sir Benfro i adnewyddu ffermdy a magu ei merched ar lethrau Carn Ingli. Ac yn olaf, Elin, merch hynaf Bethan. Er nad yw’n cael ei henwi yn y disgrifiad ar gefn y nofel mae hi bron mor bwysig i’r stori â’i mam, gyda rhannau o’r gyfrol yn cael eu hadrodd o’i safbwynt hi. Bydd darllenwyr Y Ferch ar y Cei yn cofio’r rhan allweddol chwaraeodd Elin, wrth weithio yn y Cei, yn helpu ymchwil ei mam i gynllun datblygu amheus ar lannau afon Taf. Mae hi’n chwarae rôl debyg yma hefyd; mae hi a’i chariad yn gweithio yn Nhafarn y Llew Coch yn Nhraeth Llyfn dros yr haf, lle mae Elin yn casglu gwybodaeth hanfodol.

Os daw mwy o nofelau yn y gyfres (a pham lai?), bydd yn ddiddorol gweld pa ddefnydd wnaiff Catrin Gerallt o Elin. Mae hi’n gymeriad agos atoch, eofn a di‑lol, ac yn ddyfais ddefnyddiol i symud y stori yn ei blaen. Ond a fyddai hi’n ormod o naid iddi fod yn byw a gweithio yn rhywle lle medr hi ddigwydd taro ar wybodaeth sydd o gymorth i’w mam am y trydydd tro? Fe fyddai’n drueni colli Elin – mae hi’n wrthgyferbyniad pwysig i’w mam ac mae eu perthynas wedi datblygu’n un agosach ac anwylach yn ystod y nofelau.

Does dim angen bod wedi darllen Y Ferch ar y Cei i fwynhau Y Ferch ar y Traeth. Ond os cewch chi amser, mae’n werth darllen y ddwy nofel.

Cerian Arianrhod

RHANNWCH