Yng nghanol y 2000au, collodd Rick Canty ei fam a’u cartref yn y Barri. Wedi’i droi allan, dringodd ar do’r tŷ ac arhosodd yno am flynyddoedd mewn protest. Trwy gyfweliadau diffuant a darnau archif, mae Rick on the Roof yn datgelu sut mae cymdogaeth dawel yn troi’n gymuned, gan gynnal partïon stryd a’i gadw’n fyw trwy stormydd, nes bod Rick yn cael ei anafu’n sydyn o dan amgylchiadau dirgel. Heddiw, yng nghanol argyfwng costau byw parhaus Prydain, mae’r gymuned a luniwyd o amgylch Rick yn myfyrio ar waddol eu harwr lleol. Mae’r ffilm ddogfen emosiynol, ychydig yn rhyfedd, hon yn edrych ar frwydr un dyn dros ei gartref.
“Cefais fy magu gyda Rick fel arwr lleol yn fy nhref enedigol, y Barri,” meddai’r cyfarwyddwr Isaac Atkin-Mayne. “Mae troi ei stori yn ffilm ddogfen fer gyda’i anwyliaid wedi bod yn anrhydedd. Mae’n ymwneud â phrotest benderfynol a braidd yn wallgof Rick, ond mae hefyd yn ymwneud â chwilio am fath o gymuned sy’n gallu teimlo’n beth prin heddiw. Dieithriaid sy’n barod i’ch cefnogi drwy eich brwydr a’i gwneud yn frwydr iddyn nhw hefyd. Ac 20 mlynedd yn ddiweddarach, maen nhw’n cofio’r dyddiau hynny fel dyddiau mwyaf arwyddocaol eu bywydau.”
Cynhyrchwyd y ffilm ddogfen drwy gynllun ffilmiau byrion Beacons Ffilm Cymru Wales gan Nan Davies o One Wave Films, sydd wedi mynd ymlaen i gyd-gynhyrchu’r ffilmiau nodwedd Still Pushing Pineapples a Learning to Breathe Under Water, ac mae ar waith â chynhyrchu ei ffilm ddogfen ddiweddaraf, The Last Picture Shop.