Wedi ystyried gwrthwynebiad rhai Cymry Ymneilluol i’r nofel mewn ambell bennod ddiweddar, cawn yn y bennod hon gyfle i ddechrau trafod Daniel Owen, nofelydd Cymraeg mwyaf llwyddiannus y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Nodwn fod ei waith wedi’i wreiddio yng nghymdeithas ddiwydiannol sir y Fflint a bod Methodistiaeth Galfinaidd yn ddylanwad mawr arno hefyd, er iddo ysgrifennu ffuglen ddychanol sy’n feirniadol iawn o’i enwad ei hun. Lluniodd fersiwn ffuglennol o’i dref enedigol, Yr Wyddrug, yn Y Dreflan, ac edrychwn ar nifer o ddyfyniadau sy’n enghreifftio’i ddychan afieithus a’i allu i gymeriadu’n gryno ac yn effeithiol.
Wrth drafod ei nofel boblogaidd, Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel – a dechrau trafod campwaith arall ganddo, Profedigaethau Enoc Huws – nodwn y modd y tynnodd yr awdur ei hun sylw at ‘Gymreigrwydd ei gymeriadau’ gan bwysleisio’r ffaith ei fod yn cynhyrchu nofelau Cymraeg a Chymreig, yn wahanol i’r cyfieithiadau a frithai’r wasg gyfnodol ar y pryd.