Cartref digidol diwylliant Cymru.

Noson P15 – Yr Amgylchedd (2)

No Categories Found

Noddwyd gan | Sponsored by:  Renew Wales.

18:30 | 02.03.21 

4 Person Ifanc, 15 munud i’ch hysbrydoli | 4 young people, 15 minutes to inspire (*held through the medium of Welsh)

Cofrestrwch YMA | Register HERE

Bwriad Prosiect 15 yw dathlu llwyddiannau unigolion ysbrydoledig sy’n siarad Cymraeg. Mae yna siaradwyr Cymraeg sy’n gysylltiedig â sefydliadau mwyaf blaenllaw’r byd, brandiau byd-eang ac unigolion mewn galwedigaethau blaenllaw.

Yn y digwyddiadau yma mi fydd ‘Prosiect 15’ yn gwahodd siaradwr ifanc i roi 15 munud o ddarlithoedd ysbrydoledig am ‘newid hinsawdd, cynaladwyedd a’r amgylchedd’ fel pwnc, dros y ddwy noson. Byddant yn son am eu profiadau a’u dyheuadau mewn arddull tegyg i ddarlithoedd TED – cyfle felly i ledaenu’r negeseuon amgylcheddol ac ieithyddol.

Y Siaradwyr:

Ismail Seddon (17 oed o Gaerdydd). Rydw i yn siaradwyr Cymraeg o hil gymysg ac wedi astudio yn ysgol gynradd ac uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydw i nawr yn astudio’r bacaloriaeth rhyngwladol yn UWC Atlantic College sydd yn goleg rhyngwladol ar arfordir sir Morgannwg. Mae gen i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth byd eang a sut gallai wneud fy nghymuned yng Nghaerdydd yn fwy cynhwysol ac agored i wahanol ddiwylliannau.

Teitl Sgwrs: Cymraeg i bontio diwylliannau.



Nia Feakes (16 mlwydd oed, yn byw yn Sir Fynwy). Rwy’n mynd i’r ysgol ym Mhontypŵl. Yn fy amser rhydd, dwi’n mwynhau darllen a chanu’r piano. Yn y dyfodol hoffwn astudio Bioleg gan fod gen i ddiddordeb mawr yn y topig, yn enwedig pynciau fel cadwraeth amgylcheddol, bioamrywiaeth ac iechyd. Hoffwn i barhau i ddysgu am yr amgylchedd gan gymryd cyrsiau a gobeithiaf i ddilyn gyrfa yn y maes.

Teitl Sgwrs: Trafnidiaeth: i Ddiwygio neu Ddinistrio?




Molly Palmer (22 mlwydd oed o Gwmaman). Ar hyn o’r bryd, rydw i’n gweithio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru fel Cydlynydd Gorsaf Radio Platfform. Dros y flwyddyn a hanner diwethaf, rydw i wedi bod yn cynrychioli Canolfan Mileniwm Cymru ar Academi Arweinwyr Dyfodol. Mae’r ymgyrch yma wedi cael ei sefydlu gan Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. Yn ystod fy amser ar yr Academi yma, rydw i wedi bod yn un degfed o’r bobol gyntaf i gynrychioli Cymru yn yr One Young World Summit, rwyf wedi siarad yng nghynadleddau hinsawdd Llywodraeth Cymru a chael y cyfle i gwrdd â phobol fel Jeremy Miles MS a Michael Sheen.

Teitl y sgwrs: Penderfyniadau Pwerus: mae pob penderfyniad yn cyfri.



Josh Williams (14 mlwydd oed yn byw ym Mhenygroes.) Rwyf yn hoffi pel-droed, celf a nofio. Rwyf hefyd yn hoff iawn o crwbanod y mor. Fy niddordeb o grwbanod y mor ddaru fy ysbrydoli i geisio helpu dynnu plastic o’n cefnforoedd. Rwyf yn gobeithio mynd i brifysgol i astudio bioleg forol.

Teitl Sgwrs: Y Problem Plastig Meddal


RHANNWCH