Meta vs Life BSL Trailer
Dyddiadau: 26 Ionawr – 17 Chwefror (gan gynnwys rhagolygon talu-beth-gallwch 26 – 28 Ionawr)
Hyd y perfformiad: 60 munud
Canllaw oedran: 13+
BSL gan Sami Dunn:
Yn bersonol – 28 Ionawr + 17 Chwefror
Ar-lein – 8 Chwefror
Disgrifiad Sain gan Ellen Groves:
Ar gael yn bersonol yn unig – 27 Ionawr, 10 + 15 Chwefror
Ychydig o awgrymiadau am ymuno â ni fel chwaraewr ar-lein neu yn y cnawd
Os yn ymuno ar-lein, bydd ar chwaraewyr angen cael mynediad at liniadur neu gyfrifiadur. Yn anffodus nid yw bywyd ar ôl marwolaeth yn gweithio’n dda ar iPad, ffonau neu ddyfeisiadau sgrin gyffwrdd o’r fath.
Os ydych yn ymuno â ni yn y cnawd, rydym yn eich cynghori i wisgo esgidiau cyfforddus a dillad cynnes, gall cysylltu â’r ysbrydion fod yn waith oer.
Rhybudd Cynnwys
Mae’r profiad hwn yn sôn am farwolaeth a phrofiadau goruwchnaturiol. Fe allwch fod ag ofn. Gall pethau symud o gwmpas a gwneud i chi neidio. Ni fyddwn yn cyfathrebu ag unrhyw ysbrydion go iawn.