Cartref digidol diwylliant Cymru.

Madryn – Rhywbeth Yn Rhywle

Cerddoriaeth

Fideo cerddoriaeth swyddogol Rhywbeth Yn Rhywle, cân deitl albwm cyntaf Madryn, allan 23 Hydref 2026.

Mae’r gân yn myfyrio ar y newidiadau sy’n digwydd o’n cwmpas a’r ffyrdd rydym yn ceisio gwneud synnwyr ohonynt.

Mae Madryn yn ddeuawd werin Gymraeg sy’n cynnwys Elin Hâf a Tegid Rhys. Gan gyfuno caneuon gwreiddiol a deunydd traddodiadol, mae eu sain acwstig gyfoes yn rhoi’r gitâr a’r soddgrwth wrth galon y trefniadau.

Gwrandewch ar yr albwm cyntaf, Rhywbeth Yn Rhywle:

Credydau:
Cynhyrchwyd gan Madryn
Cymysgu a meistroli: Aled Hughes
Fideo cerddoriaeth: Katherine Betteridge

RHANNWCH