120 artist, 10 llwyfan, 7 lleoliad. Dyna beth gawsom ni yng Ngŵyl Sŵn eleni — Gŵyl aml-leoliad Caerdydd wedi’i rannu dros dri diwrnod arbennig. Yn ddathliad lliwgar o wahanol arddulliau, diwylliant a hunaniaeth, pleser yw cyflwyno ffilm fer Klust sy’n dogfennu uchafbwyntiau’r ŵyl. Wedi’i ffilmio gan y cyfarwyddwr Aled Victor, dyma gyfle i ail-fyw perfformiadau gan rai o artistiaid fwyaf blaenllaw Cymru ar hyn o bryd gan gynnwys Mellt, L E M F R E C K, Sŵnami, Greta Isaac, Kiddus + mwy.
Mwynhewch restr chwarae o rai o bigion Klust o Sŵn yma
yma