Pan ddaeth Rhys, cefnogwr pybyraf Arsenal, â’n meddyginiaethau yma ddechrau mis Hydref, dywedodd wrthyf yn syth: ‘Mae gennych bwnc parod i ysgrifennu amdano’r tro nesaf’, sef oedd hwnnw, wrth gwrs, ffaeleddau torcyfreithiol Manchester City. Wrth ddarllen y papurau, gallech feddwl fod Vladimir Putin yn sant o’i gymharu â’r Sheik Mansour, prif berchennog y clwb pêl‑droed, a’i bod yn nefoedd ar y ddaear yn awr fod athletwyr Rwsia yn cael cystadlu yn yr Olympics nesaf. O! ’r rhwysg a’r rhagrith! Buasai Dante wrth ei fodd yn lân yn graddoli pechodau chwaraeyddol yr oes sydd ohoni.
Fel y mae’n digwydd, am nad wyf yn cytuno â rheolau cyllidol y Brif Adran, nid oeddwn yn awyddus i drafod y pwnc cnotiog hwnnw, a thrwy drugaredd fawr, cyn dedlein Barn, daeth Elfyn Evans i’m hachub drwy roi imi bwnc gwell o lawer iawn i ysgrifennu amdano. Yng nghanol twyni tywod Sardinia dyma’r gwron o Ddinas Mawddwy, ar ôl tymor tynn, yn ennill pencampwriaeth y byd ralïo am y tro cyntaf erioed – a hynny ar ôl dod yn ail bump o weithiau yn y blynyddoedd o’r blaen. Yn wir, daeth yn ail y llynedd gyda 289 o bwyntiau ac ennill eleni gyda chryn ddeugain pwynt yn llai. Ddeng mlynedd ar hugain union yn ôl enillodd ei dad, Gwyndaf, bencampwriaeth Prydain. Gwelir felly fod ralïo yn y gwaed. A bod llwyddiant mewn ralïo ynghlwm wrth adnabyddiaeth dyn o’i gar modur.
Yn ei Toyota Gazoo y gyrrodd Elfyn i’w wobr, gyda’i gyd‑yrrwr Scott Martin o Gaerliwelydd yn ei gynorthwyo, fel y gwnaeth ers rhai blynyddoedd, gan ennill eleni yn Chile, Sweden ac yn strydoedd Monaco, cyn coroni’r tymor ar ail ynys fwyaf Môr y Canoldir, lle rhoddwyd lle amlwg iawn i’r Ddraig Goch nid yn unig ar y podiwm ond hefyd ymhlith y cefnogwyr selog a aethai yno o Feirionnydd.
Ar y cyfryngau cymdeithasol, beirniadwyd y BBC yn hallt am beidio â darlledu’r rali. Ond yn broffwydol ddigon, aethai gohebydd chwaraeon S4C, fy nghyn‑fyfyrwraig Lowri Roberts, â’i thîm camera yno, gan ddal yn fyw y foment ddramatig pan fethodd Oliver Solberg, prif gystedlydd Elfyn, â chadw ar y ffordd dri chan llath cyn y diwedd, gan golli’i goron.
Ond ar Newyddion Chwech, 4 Hydref, fe ddarfu i’r BBC gyhoeddi llwyddiant y Cymro. Clive Myrie oedd yn darllen y gyda’r‑nos honno, a’r hyn a ddywedodd oedd fod y Cymro o ogledd Cymru, ‘Elffin Evans’, wedi ennill pencampwriaeth y byd. Gwae rhai o’r Saeson dyscedicaf eu hanwybodaeth. Pe bai Elfyn yn Ffrancwr buasai rhywun yn ystafell newyddion y Gorfforaeth wedi holi sut yn union yr yngenid ei enw. Ond, na, noson ei gamp fawr, Elffin oedd Elfyn.
(Pan gyflwynai Jeremy Paxman University Challenge flynyddoedd yn ôl, yr oedd ei ynganiadau ef o eiriau ac enwau Cymraeg bron bob amser yn wallus, gwendid a wnâi i mi, a miloedd o wylwyr eraill, y mae’n siŵr, amau cywirdeb ei ynganiadau pan ynganai eiriau o ieithoedd eraill, boed y rheini’n Bwyleg neu’n Sbaeneg neu ba iaith bynnag.)
Ond i ddychwelyd at gamp yr enillydd o Sir Feirionnydd. Prin hanner cant oed yw ralïo o’i safon ef. Yn 1977 y cafwyd y gystadleuaeth gyntaf, a dau Brydeiniwr arall yn unig a ddaeth i’r brig ynddi, sef Colin McRae yn 1995 a Richard Burns yn 2001. Beth yn awr, heblaw’r clod cyffredinol, a dâl buddugoliaeth Elfyn? Rhoddwyd iddo eisoes glod ein Prif Weinidog yng Nghaerdydd. Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn nesaf rai milltiroedd i lawr y ffordd o’i gartref. Rhodder iddo ef a’i deulu ifanc docyn wythnos i’r Maes. Rhodder iddo hefyd wisg werdd Gorsedd y Beirdd. A rhodder i’w Doyota stondin fasnachol i’w arddangos.
Derec Llwyd Morgan