Rhaglen radio wythnosol yw Faggoting on the Radio sy’n cael ei ddarlledu’n fyw o geginau / parciau / caffis / ystafelloedd gwely’r artistiaid, wrth iddyn nhw gwrdd yn rhithiol ac yn y cnawd i wau gyda’i gilydd. Caiff meicroffonau cyswllt sydd yn atodedig at weill eu cymysgu â meicroffonau agored er mwyn casglu synau gofodau bob dydd a gofodau domestig.
Byddant yn darlledu unwaith yr wythnos am bythefnos yn ystod y preswyliad gyda’r darllediad yn para oddeutu 2 awr. Mae’r darlleniadau hyn ar gael i wrando arnynt fan hyn ar y cyd ag IRC, gan eich gwahodd i eistedd gyda ni a chyfarfod mewn stafell sgwrsio rhithiol fel fyddai’n digwydd yn nyddiau cynnar y wê, gan ddychwelyd y gofod ar-lein i fod yn ofod o gyd-gyfarfod.
Artist amlddisgyblaethol yw Delphi Campbell sy’n gwreiddio ei hymarfer mewn hunan-bortreadu. Mae’r gwrthrychau mae hi’n eu cynhyrchu yn mapio pob elfen o’i bodolaeth, o ddiagnosisau clinigol hyd at ei hoff raglenni teledu. Mae ymarfer Campbell yn adlewyrchu bywyd wedi ei fyw ar groesdoriad; y profiadau amrwd a difrodol a ddaw o fod yn fenyw cripl, gwyllt ac anabl ynghyd â’r llawenydd penrhydd a’r cariad sy’n bodoli o fewn yr hunaniaeth yma.
Technegydd creadigol yw Mort Drew sy’n gweithio ar ddarllediadau sain byw, systemau sain gwrth-hierarchaidd, a gosodiadau. Mae ei ymarfer yn archwilio byrhoedledd, radio ymgyrchol, galar a dadleoliad. Mae’r gwaith yn ymddangos fel darllediadau, gweithdai, cyhoeddiadau, dyfeisiau sain a pherfformiadau.