Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cyhoeddi cyfrol gyntaf Dafydd Owain – Ymarfer Byw (I’r Byw)

Llenyddiaeth

Cyhoeddir Ymarfer Byw (I’r Byw), cyfrol gyntaf y cerddor Dafydd Owain, ar 5 Hydref 2026.

Mae’r gyfrol yn rhannu ei ymgais bersonol i ddeall sefyllfa anghyfarwydd a gwneud synnwyr o’r byd o’i gwmpas, a hynny mewn cyfnod anodd. Cyfnod a ddaeth a’i ail albym fel artist unigol, Ymarfer Byw (Recordiau I Ka Ching) i’r wyneb.

Aeth yr albym ymlaen i ennill Record Hir Orau Gwobrau Selar 2026, Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2026, a’i gynnwys ar restr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2026, gan ennill canmoliaeth eang gan feirniaid cerddorol a gwrandawyr fel ei gilydd.

Yn y gyfrol, mae Dafydd Owain yn ein gwahodd i’r tywyllwch, gan ein hannog i’w archwilio, ei dynnu’n nes a gwrando ar ei sŵn. Ceir yma eiriau caneuon Ymarfer Byw yn eu cyfanrwydd, ynghyd â cherddi a monologau, a gyhoeddir am y tro cyntaf.

Gyda rhagair gan Manon Steffan Ros, cerdd newydd yn ymateb i’r albym gan Llŷr Gwyn Lewis, yn ogystal â ffotograffau du a gwyn gan Elin Gruffydd a Dion Jones, mae’r llyfr yn cynnig mwy na geiriau caneuon Ymarfer Byw yn unig.

Yn y gyfrol clawr caled hardd, cawn gyd-destun ehangach albym a ddisgrifiwyd gan Guto Elis ar Golwg 360 fel “stori ddylai Cymru gyfan ei chlywed, a gwrando. Gan nad oes unrhyw albwm gyfoes o’r fath wedi bod yn hanes ein hiaith.”

Mae’r gyfrol hefyd yn gydymaith i’r ffilm Ymarfer Byw (I’r Byw), a ddarlledir ar S4C ar 10 Hydref 2026.  Ffilm sy’n rhannu perfformiadau byw o rai o ganeuon yr albym yn ogystal a rhai o’r cerddi a’r monologau sy’n ymddangos yn y llyfr.

Dyma gyfrol ingol ac uniongyrchol. Cyfrol a fydd yn codi gwên ac yna’n mynd â’ch gwynt. Cyfrol amrwd ond hanfodol, sy’n tanlinellu dawn ddihafal Dafydd Owain, nid yn unig fel cerddor, ond hefyd fel ysgrifennwr.

Ymarfer Byw (I’r Byw) gan Dafydd Owain yw cyfrol gyntaf atro, gwasg gyhoeddi newydd wedi lleoli yn Aberystwyth.

Mae modd prynu’r gyfrol o wefan atro, ffolio neu o’ch siop lyfrau leol.

Llun: Elin Gruffydd

RHANNWCH