Wrth edrych ymlaen at Ddiwrnod Rhyngwladol pobl Anabl, mae Celfyddydau Anabledd Cymru (DAC) yn cynnal 4 digwyddiad Cyfiawnder Anabledd ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr. O dydd Iau 12 Tachwedd, bydd digwyddiadau wythnosol yn cael ei chynnal ar Zoom cyn terfynu gyda digwyddiad yn Chapter ar Ddiwrnod Rhynwladol Pobl Anabl, dydd Iau 3 Rhagfyr.
12/11: Gwrthsafiad Celfyddydol: Menywod, Creadigrwydd a Herio Rhywioldeb ym maes Gofal Iechyd
Ymunwch â DAC dros Zoom ar 12 Tachwedd ar gyfer dangosiad celfyddydol a thrafodaeth radical ymysg artistiaid a/Anabl arobryn o Gymru: yr awdur Bethany Handley, yr artist gweledol Cerys Knighton, yr animeiddiwr Lleucu Non a’r gantores Elen Wyn. Mi fydd Delyth Jewell AS (Y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod) hefyd yn cyfrannu.
Byddwn yn archwilio sut mae menywod a/Anabl yn defnyddio’u hymarferion creadigol i herio ablaeth ar sail rhywedd a rhwystrau strwythurol ym maes gofal iechyd, gan gyfuno trafodaeth feirniadol gyda mynegiant artistig byw trwy ddarlleniadau, perfformiadau ac arddangosfeydd celf a ffilm.
19/11: Llwybrau Gwrthwynebiad: Cyfiawnder Anabledd, Trafnidiaeth, a Goroesiad Creadigol
Beth yw’r canlyniad pan mae mynediad i diwylliant yn dibynnu ar mynediad i symudiad?
Nid yw trafnidiaeth yn golygu teithio yn unig am nifer o bobl anabl. Mae’n terfynu os gallwn ni cael mynediad i waith, i berfformio, cydweithio, mynychu digwyddiadau, cynnal gyrfaoedd creadigol a chymryd rhan mewn bywyd diwylliannol. Gall diffyg trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch, tacsis anhygyrch, diffyg cysylltiadau gwledig, profiadau teithio anniogel, a gwasanaethau yn terfynu cyn i ddigwyddiadau gorffen i gyd bod yn atalfeydd i gyfranogiad creadigol.
Ochr yn ochr â thrafodaeth, bydd cyfranogwyr Grace Quantock, Yanti Hashim, Mars Saude a Heledd Bianchi yn rhannu ymatebion creadigol gan gynnwys barddoniaeth, gair llafar, cerddoriaeth, ffilm, ffotograffiaeth, neu berfformiadau byr sy’n archwilio themâu o symudiad, allgau, mynediad ac ymberthyn.
26/11: Natur a Mynediad: Anabledd, Natur, Newid Hinsawdd a Chreadigrwydd
Ymunwch â Fforwm Ar-lein Natur a Mynediad Celfyddydau Anabledd Cymru (DAC) ar 26 Tachwedd at 1.30pm (Zoom), gyda chyfranogwyr Catherine Taylor Parry, Aidan Moesby, DeaNelia Lupton, a Kirsty Lindsey (Newport Wetlands). Bydd y drafodaeth ddiddorol yma yn archwilio cysylltiadau rhwng anabledd, natur, newid hinsawdd, a chreadigrwydd, gan roi cyfle i bobl anabl rhannu eu profiadau o fynediad i leoliadau naturiol fel Gwylptir Casnewydd a safleoedd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Byddwn ni’n trafod gyda’n gilydd am yr atalfeydd a’r llonder o gysylltu â natur, edrych ar sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar gymunedau anabl, ac archwilio sut gall celf ysbrydoli ffyrdd newydd o feddwl am gyfiawnder hinsawdd a dyfodol mwy hygyrch. Dewch ymlaen i rannu eich llais, syniadau, a gobaith am newid.
03/12: Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl: Disability: A History of Resistance gan Yr Athro David Turner
Wedi’i chynnal gan Celfyddydau Anabledd Cymru yn Canolfan Celfyddydau Chapter
Am Diwrnod Rhyngwladol Anabledd eleni, ymunwch a’r Athro David Turner, artist-ymgyrchydd Delphi Campbell, ac academydd James Patrick Cox am noswaith o archwilio llyfr David, Disability: A History of Resistance.
“Yn ystod adeg sy’n gweld cynnydd yn ableddiaeth, mae ein hanesion yn fwy pwysig nag erioed. Mae Disability: A History of Resistance yn adrodd stori newydd o orffennol Prydain sy’n dathlu protest, gwydnwch a phenderfynoldeb pobl anabl i wrthwynebu rhagfarn ac i ddweud straeon mwy gonest am eu bywydau. Rydw i’n gobeithio bydd hyn yn ysbrydoli pobl i ddarganfod eihun yr hanesion gwerthfawr o anabledd sy’n bodoli o’n gwmpas.”
– Yr Athro David Turner, Is-Cadeirydd Celfyddydau Anabledd Cymru ac awdur Disability: A History of Resistance.
Mae’r digwyddiadau am ddim ac yn agored i bawb. Ymunwch a ni i rannu eich profiadau, ymatebion creadigol, a gobaith am newid.
Iaith Arwyddion Prydain a Chapsiynau ar gael. Cysylltwch â post@disabilityarts.cymru gyda unrhyw cwestiynau ac anghenion mynediad.
Diolch i Cyngor Celfyddydau Cymru ac ein partner digidol Am, a fydd yn rhannu recordiadau o’r digwyddiadau ar ei gwefan ambobdim.cymru