Mae Am yn falch o gyhoeddi bod Tudalen, cystadleuaeth i gyhoeddi llenyddiaeth wreiddiol o Gymru mewn gofod digidol ar ein gwefan, yn dychwelyd am ail rownd. Mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, bydd Tudalen, drwy alwad agored, yn rhannu 2 ddarn buddugol o lên-meicro.
Rydym yn gofyn am ddarnau o lên-meicro creadigol iaith Gymraeg yn ymateb i’r thema ‘Haenau’, a hynny i ddathlu arddangosfa ddiweddaraf Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ‘Haenau/Layers’. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno darn o waith yw 23:59 Rhagfyr 2il 2026. Gallwch gyflwyno eich gwaith trwy’r ffurflen gais yma.
Dyma’r canllawiau ar gyfer y gystadleuaeth iaith Gymraeg. Mae cystadleuaeth ar gyfer llên-meicro Saesneg yn cyd-redeg â’r un hwn, ac mae’r canllawiau ar gyfer hwnnw i’w gweld yma.
1. Diffinnir llên-meicro fel darn o ryddiaith sydd yn stori gyflawn a adroddir gyda nifer cyfyngedig o eiriau (hyd at 500 gair).
2. Rydym yn gofyn am waith yn ymateb i’r thema ‘Haenau’, ond nodir mai sbardun ysbrydoliaeth yw’r thema, ac nad oes anghenraid i ymateb i’r arddangosfa ‘Haenau/Layers’ yn uniongyrchol.
3. Mae’n rhaid i’r darn fod yn yr iaith Gymraeg.
4. Ni fydd Am yn golygu y darnau buddugol mewn unrhyw ffordd wrth eu cyhoeddi, a ni fyddwn yn eu cyfieithu i’r Saesneg.
5. Dylai’r darn fod heb ei gyhoeddi unrhyw le arall o’r blaen.
6. Gallwch ymgeisio am y rownd yma o Tudalen os ydych chi wedi ymgeisio o’r blaen.
7. Gallwch gyflwyno eich gwaith trwy’r ffurflen gais yma. Mae hefyd modd i chi yrru eich darn ar ffurf ffeil sain: cysylltwch gyda lea@pyst.net am fwy o wybodaeth am hyn.
8. Bydd ysgrifenwyr y 3 darn buddugol yn derbyn cydnabyddiaeth ariannol o £100 yr un.
9. Bydd y darnau buddugol yn cael eu dethol yn anhysbys gan Banel Beirniadu fydd yn cynnwys Megan Angharad Hunter a Malachy Edwards.
10. Bydd hawlfraint y gwaith yn aros gyda’r awdur, ond bydd gofyn i’r gwaith gael ei rannu yn ecsgliwsif drwy Am am gyfnod o fis.
Am fwy o wybodaeth am Tudalen, cysylltwch â lea@pyst.net.