Mae enillydd Brwydr y Bandiau 2021 wedi mynd ati gyda’i gyfaill i greu label recordiau sy’n gobeithio meithrin dyfodol y Sîn Roc Gymraeg…
Creu cymuned a rhoi rhyddid i’r artistiaid sydd wrth galon label recordiau a sefydlwyd ym Mhenygroes yn Nyffryn Nantlle dros yr haf.
Mae Hedydd Ioan, a enillodd Brwydr y Bandiau 2021 dan yr enw skylrk, wedi mynd ati i sefydlu’r label INOIS gyda’i ffrind, Osian Cai o’r band CAI.
Bwriad INOIS yw rhoi cyfle i wynebau newydd ac maen nhw yn ystyried eu hunain rhyw fath o “stepping stone” sydd “ddim yn arbenigwyr o bell ffordd”.
Wedi iddyn nhw fanteisio ar lwyth o gyfleoedd gan fudiadau fel artistiaid ifanc yn yr ysgol, mae Hedydd ac Osian hefyd yn teimlo bod INOIS yn gyfle i rannu’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu gydag artistiaid eraill.
“Y prif beth ryden ni’n trio gwneud ydy creu cartref i bobol sydd eisiau cael cerddoriaeth allan yna,” meddai Hedydd.
“Dw i’n meddwl os wyt ti’n rhoi digon o gyfleoedd i bobol pan maen nhw’n gadael yr ysgol ac ella’n mynd i’r brifysgol, mae hynna’n gwneud iddyn nhw sylwi ei bod hi’n bosib cario ymlaen, rhyddhau cerddoriaeth a chyrraedd ymhellach.
“Os wyt ti’n cario ymlaen efo’r cylchred yna, mae o’n creu peiriant positif lle mae artistiaid ifanc yn tyfu, dysgu a rhannu’r wybodaeth yna.”
Mae Osian yn ennill ei fara menyn yn gweithio fel Arweinydd Cerddoriaeth Gymunedol mewn adeilad o’r enw Yr Orsaf ym Mhenygroes, sy’n gaffi, llety a chartref i brojectau cymunedol.
“Ryden ni’n trio helpu pobol ifanc i gael mwy o gyfleoedd efo cerddoriaeth yn Yr Orsaf,” meddai Osian.
“Felly, ryden ni eisiau plethu hwnna i mewn efo INOIS trwy redeg gigs efo’r bobol ifanc sydd ddim fel arfer yn cael y cyfle.”
Y label o Loegr sy’n ysbrydoli
Yn dwyn ysbrydoliaeth gan label Factory Records o Fanceinion, mae’r ddau ffrind eisiau i’r label fod yn hafan o ryddid i artistiaid, o ran eu cerddoriaeth a’u hawliau.
Sefydlwyd Factory Records ym 1978 gan Tony Wilson ac Alan Erasmus, a nhw fuodd yn edrych ar ôl Happy Mondays yn eu dyddiau cynnar, a Joy Division a’u tebyg.
Ymunodd Joy Division â Factory Records gyda chontract wedi’i lofnodi yng ngwaed Tony Wilson, a ddywedodd: “Mae’r cerddorion yn berchen ar bopeth, nid yw’r cwmni’n berchen ar ddim”.
“Dw i’n meddwl wrth ffocysu popeth ar y miwsig a dy fod yn licio gweld y miwsig yma’n cael ei ryddhau, ti’m yn mynd i fynd yn wrong o gwbl,” meddai Hedydd.
“Y prif beth ydy bod o’n le ar gyfer pobol sydd eisiau creu yn rili rhydd a bod yna ddim unrhyw bwysau a systemau gwahanol, a bod o’n rhywbeth, gobeithio, rhyddhaol i’r artistiaid,” meddai Hedydd.
Ychwanega Osian: “Rydan ni’n poeni llai am y berthynas rhwng y label a’r artist ond mwy am ni, ffrindiau nhw, a’r artistiaid.
“Rydan ni’n laidback.
“Os ydych chi eisiau rhyddhau stwff, rydan ni yma i helpu chi efo hynna.”
Hydref prysur ar y ffordd
Y sengl gyntaf i’w rhyddhau ar label INOIS oedd ‘Adfywio’ gan skylrk yn ôl ym mis Gorffennaf eleni, cyn Steddfod brysur o gigio.
Ynghyd â skylrk a CAI, mae’r band ifanc o Gaernarfon, Maes Parcio, hefyd wedi bod yn rhan o’r label ers ei ddyddiau cynnar, ac mae ganddyn nhw sengl newydd yn y beipen.
‘Sgen ti awydd?’ yw sengl swyddogol cyntaf y band pync ifanc sy’n benderfynol o ddod ag egni newydd i’r gogledd. Mae’r sengl wedi bod ar gael i’w chlywed ar Spotify ers tro ond roedden nhw’n teimlo ei fod yn gychwyn da i’w taith efo INOIS.
“Roedd y band yn awyddus i ddangos lle mae Maes Parcio wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf, a methu disgwyl i ddangos lle maen nhw’n mynd,” meddai INOIS.
Hefyd i ddod ar y label mae sengl gan yr artist diweddaraf i ymuno, Alaw, sef ‘Before I Go / B Seeing U’. Yn ddiweddar cyhoeddwyd bod Alaw yn rhan o brosiect newydd Beacons Cymru, Honey Sessions, sy’n anelu i gefnogi ac ysbrydoli artistiaid ifanc sy’n gweithio ym myd hip-hop, rap a grime, r’n’b a cherddoriaeth bop yng Nghymru,
“Mae’r sengl ddwbl yma’n dangos y byd a’r tirwedd drawiadol mae Alaw yn gallu adeiladu drwy ei thraciau offerynnol,” meddai INOIS.
Ac yn olaf yn y gyfres o senglau i’w disgwyl mae ‘Guidance for Appeal’ gan fand cyd-sefydlydd y label ei hun, CAI.
Dyma’r sengl gyntaf i’r band ryddhau ers bron i flwyddyn, a’r gân Saesneg gyntaf ers rhyw flwyddyn a hanner.
“Mae ‘Guidance for Appeal’ yn dangos ei sŵn bedroom pop ar lefel newydd ac yn cael ei ryddhau efo fideo cerddorol yn parhau ei ddelweddau lliwgar a diddorol,” meddai INOIS.
“Mae’r gân am golled sy’n agos i chdi a’r ‘Guidance for Appeal’ ydy’r arweiniad ti wedi rhoi ar gyfer y person wyt ti,” meddai Osian.
Angen mwy na’r gig one off yn y gogledd
Gobaith arall gan label INOIS yw trefnu gigs eu hunain.
“Mae mynd i gigs a chlywed bandiau newydd yn un o’r pethau gorau!” meddai Hedydd.
“Mae gallu cael artistiaid i chwarae wyneb yn wyneb a gweld pobol yn mwynhau’r gerddoriaeth mor bwysig.”
Oes yna ddigon o gigs yn mynd ymlaen yn y gogledd?
“Absolutely not!” meddai Osian.
Hedydd – “Mae o’n bizzare gweld bod llefydd fel Caerdydd efo rhywbeth yn digwydd bob penwythnos.
“Yr elfen reolaidd yna sydd ar goll [yn y gogledd], a’r gymuned sy’n mynd allan bob penwythnos… Dim otsh pwy sy’n chwarae.”
Osian – “Mae yna gymaint o leoliadau class yma hefyd.”
Hedydd – “Mae angen adeiladu mwy o sîn na jest yr one off.”
Osian – “Gobeithio byddwn ni’n gallu cael rhyw fath o effaith ar hynna.
“Dw i ddim yn poeni gormod am yr holl beth yn ehangu a thyfu’n anferth.
“Dw i jest eisiau i bobol fwynhau’r gigs a’r gerddoriaeth a chael hwyl.”
SENGLAU NESAF INOIS
‘Guidance for Appeal’ gan Cai allan ar 28 Hydref
‘Before I Go / B Seeing U’ gan Alaw allan ar 4 Tachwedd
‘Sgen Ti Awydd?’ gan Maes Parcio allan ar 11 Tachwedd