Gradd: 4/5
Gyda chymysgedd hollol ryfeddol o lais seicedelig a llinell bas pwerus, mae ‘Wandering Along /‘ Rwy’n Crwydro’ gan y grŵp dwyieithog o Sheffield yn un hynod o egniol.
Wedi ei rhyddhau yn wreiddiol fel rhan o’u EP ‘Gweler Ein Gofid’ gyda’r caneuon ‘Sun Will Come / Mi Ddaw’r Haul’ a ‘See My Grief / Gweler Ein Gofid’, cafodd y cân ei ail-gymysgu a’i rhyddhau fel sengl ar recordiau Libertino er mwyn dathlu Dydd Miwsig Cymru.
Cyfuniad pleserus o post-punk trawiadol a lleisiau seicedelig doeth, mae’r record gyffrous syml hon yn ei wneud yn anodd i beidio dechrau symud. Mae’r drymiau haenog, blaengar yn cymysgu’n dda â’r bas i greu sylfaen gadarn o ddaioni post-punk. Mae’r cic syml yn creu rhythm pwerus, yn adeiladu’n berffaith ar draws dechrau’r trac er mwyn gosod yr olygfa ar gyfer y cyflwyniad deinamig hwn. Mae’r llais swynol yn ymddangos yn y penillion, yn atseinio geiriau’r teitl ‘Rwy’n Crwydro’. Mae’r llais yn diflannu yn y cytgan, yn cael ei amnewid gyda llinell arweiniol gofiadwy, sydd yn gweddu naws y gân yn berffaith.
Nad yw’r cân yn cynnwys unrhyw doriadau mawr neu solo’s ormodol, ond yn lle yn cyrraedd uchafbwynt syml, yn siwtio’r trac yn berffaith. Mae’n amlwg bod yna lawer mwy i ddod o’r “breuddwydwyr dwyieithog”, gyda dau drac newydd, ‘Crags’ a ‘Rise / I Gof Af’ yn cael ei rhyddhau ar ddiwedd y mis trwy recordiau Delicious Clam.