The digital home of Welsh culture.

Theatr: Adolygiad

Gradd: 4.5/5

Mae dychweliad hir-ddisgwyliedig y band o Ddolgellau gyda’r sengl-ddwbl ‘Theatr / Uno, Cydio, Tanio’ yn sicr ddim yn siomi. Er mae’r trac yn cyflwyno ochr newydd, aeddfed i’r band, does dim amheauth bod Theatr yn perthyn i Sŵnami, gyda digonedd o’r lleisiau breuddwydiol, alawon meddwol a’r technegau cynhyrchu pleserus daethom i’w caru chwe mlynedd yn ôl.

Mae steil y trac newydd yn awgrymu sŵn ffres ar eu halbwm nesaf i gymharu â’u halbwm cyntaf nôl yn 2015 – gyda’r drymiau electronig, allweddi synth, a’r gitâr symlach yn cyflwyno pennod newydd yn stori’r band. Mae’r bachyn “Er bo’ ti’n gaddo gwell – Dwi’n meddwl bod hi’n werth mi adael – Dwi’n meddwl bod hi’n werth mi adael nawr” yn un sydd yn arnofio o gwmpas yn eich pen am ddyddiau ar ôl glywed

Mae’r geiriau’n adrodd stori unigolyn sy’n mynnu gadael ei fywyd o rwystredigaeth ac aflonyddwch, agwedd sy’n cael ei adlewyrchu’n wych yn y fideo. Gyda’r prif cymeriad wedi ei chwarae gan Tom Rhys Harries (seren y ddrama White Lines), mae’r fideo yn portreadu unigolyn yn gaeth rhwng dau fyd gwahanol. Mae’r pentref hynod ddelfrydol, Portmeirion, yn cynrychioli bywyd perffaith, sgleiniog, gyda’r cymeriad yn dymuno ei ddisodli ar gyfer y bywyd anniben, rhydd.

Mae ‘Theatr / Uno, Cydio, Tanio’ allan nawr ar Recordiau Côsh! 

SHARE