Cyfuniad breuddwydiol o leisiau graenus ac offeryniaeth hudolus, mae’r sengl newydd hon yn enghraifft glir o’r berthynas ddiamheuol rhwng Sywel Nyw â’r cerddorion cyffroes sydd gan Gymru i’w cynnig.
Wedi’i ryddhau ddydd Gwener ddiwethaf ar Lwcus T, Bonsai ydy’r darn diweddaraf yn yr ymdrech uchelgeisiol gan Lewys Wyn i ryddhau cân am bob mis or flwyddyn. Yn ceisio bob tro i gydweithredu ag un arall o ddoniau cerddorol mwyaf Cymru, mae Sywel Nyw yn cwblhau ei gân ar gyfer mis Mai gyda chymorth Glyn Rhys-James, canwr y triawd hoffus Aberystwyth, Mellt.
Mae’r gân yn cychwyn gyda’r gitâr acwstig, yn clymu’n dda gyda chyflwyniad haenau o leisiau gwrywaidd emosiynol. Mae’r padiau breuddwydiol, yr allweddi swynol a’r gitarau crwydrol yn tynnu sylw at sylfaen glir Sywel Nyw o fewn cerddoriaeth fodern Gymraeg, gan rannu tebygrwydd ag artistiaid fel Sam Barnes a Boy Azooga. Mae geiriau’r gân yn dilyn arddull llofnod Mellt o benillion syml llawn dywediadau dychmygus, a ddisgrifiwyd gan Glyn Rhys-James fel stori “coeden bonsai yn ceisio cadw’n fyw”
Mae Bonsai allan nawr ar Lwcus T ac ar gael ar bob platfform ffrydio mawr. Bydd nifer gyfyngedig o gasetiau yn cael eu rhyddhau, gydag ochr-b unigryw sef fersiwn piano o Ddyfroedd Melys gan Gwenno Morgan.