“Shwmae Su’mae!: Neges gan y Comisiynydd
Diwrnod i ddathlu’r Gymraeg ydi heddiw!
Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd, ond yn gyfnod i ni hefyd i weld beth sy’n bwysig i ni; ein cartrefi, cymunedau, gwlad ac yn bwysicach na’r cwbl, ein hiaith.”
Fel siaradwr Cymraeg yng Nghymru, mae gennych chi hawliau i ddelio â sefydliadau cyhoeddus yn Gymraeg ac i dderbyn gwasanaethau yn yr iaith. Dyma eich hawliau.
Sut mae dweud #Shwmaesumae mewn gwahanol ieithoedd? Dyma neges gan ffrindiau y Comisiynydd yn dymuno #shwmaesumae dros y tonnau.