Colli’r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey a Manon Steffan Ros. Pedwar awdur sy’n bustachu efo plotiau yn gyson ac yn aml yn ei cholli hi. Mae ‘na lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.
Podlediad gan Gyngor Llyfrau Cymru. Gofod i drafod llyfrau o bob math.
Cyflwynwyd gan Mari Siôn
Cynhyrchwyd a golygwyd gan Dylan Jenkins.
Podlediad gan Marged Berry yn trafod ysgrifennu, y broses cyhoeddi a llyfrau gyda awduron Cymraeg a aelodau o fyd llyfrau Cymru.
Beth yw’r grymoedd sy’n gyrru sgwennwyr i archwilio eu hamgylchfyd, ar lefel corff, cymuned a byd? Yn
y gyfres hon o ddeialogau gyda rhai o leisiau mwyaf cyffrous y Gymru
greadigol gyfoes, bydd Iestyn Tyne a Grug Muse yn defnyddio drafftiau o
waith newydd sbon gan y cyfrannwyr fel man cychwyn i ystyried y pethau
hyn.
Podlediad am lyfrau plant a phobl ifanc.
Croeso i Glwb Darllen Gybolfa, podlediad misol efo Lowri
Larsen a Becci Phasey lle byddwn yn dewis gybolfa o lyfrau i’w trafod
pob mis. Llyfrau hen, newydd, Cymraeg, Saesneg, ffuglen,
ffeithiol, a phopeth yn y canol. Bydd ambell sgwrs am bethau heblaw am
lyfrau ‘da ni’n siŵr.