Sesiwn clo o ‘Môr-forynion’ oddi ar yr albym ‘Llwch’ gan Mei Emrys i ddathlu DMC. Band yn cynnwys Twm Ellis ar drums, Wil Chidley ar gitar flaen, Gerwyn Murray ar y bas ac yn cynnwys ymddangosiad arbennig gan Awen Blandford ar y Cello. Cafodd y fideo ei gychwyn yn ystod y clo cyntaf a dim ond yn ystod y clo yma mae nhw’n gorffen y gwaith, ar ôl ffeindio cwpl o’r clipiau gwreiddiol tra’n mynd drwy lluniau’r ffôn. Mae caneuon Mei a’i cyn fand Vanta i gyd ar gael i’w ffrydio yn y llefydd arferol. Recordio a golygu fideo gan Wil Chidley.