1. Mahum, allet ti ddweud ychydig amdanat dy hun i ni?
Fy enw i yw Mahum Umer, rydw i’n bymtheg oed a chefais fy ngeni a’m magu yng Nghymru ac rwy’n falch o fod yn Gymraeg ac yn Pakistani.
2. Sut daethost ti’n rhan o’r Pump?
Fe wnes i ddarganfod Y Pump a chysylltu ag Elgan Rhys, oedd yn arwain y prosiect. Yn wreiddiol, roeddent yn chwilio am bobl ifanc 16+ i weithio fel cyd-awduron ar y prosiect ac roeddwn i’n 14 oed ar y pryd. Ond siaradais ag Elgan, mynegais fy mrwdfrydedd, ac anfon darn o fy ngwaith ato. Ychydig yn ddiweddarach e-bostiodd Elgan i ddweud y byddai’n wrth ei bodd i fy nghroesawi i’r tîm a wedyn dechreuodd fy nhaith Y Pump.
3. Am beth mae’r stori? Sut aethoch chi ati i ysgrifennu’r stori?
Cyfres o bum nofel yw Y Pump, o bum persbectif a llais gwahanol. Y cymeriad a’r nofel gweithiais arni efo Marged Elen Wiliam oedd ‘Aniq’. Mae stori Aniq yn ymwneud â merch Fwslimaidd yn yr ysgol uwchradd sy’n mynd trwy gyfnod anodd wrth iddi geisio ymdopi â galar, gwrthdaro a bywyd ysgol a mae’n canfod cysur trwy grefydd, celf a chyfeillgarwch.
Roedd yr holl broses o weithio ar y nofel hon gyda Marged a’r cyfres gyda gweddill tîm Y Pump dros Zoom oherwydd Covid-19. Roedd yn brofiad hollol newydd ond er bod yr holl gyfathrebu trwy ein sgriniau, roedd cyfathrebu a dealltwriaeth gwych rhwng pawb, a roedd awyrgylch agored a chroesawgar o hyd.
Fy swydd i ar y nofel Aniq fel y cyd-awdur oedd sicrhau yn bennaf bod y cymeriad a’r stori yn ddilys, ac roedd yn bwysig cadw draw oddi wrth ystrydebau. Y peth arbennig am y prosiect hwn oedd bod gen i le i ddefnyddio fy llais a siarad am fy mhrofiadau a phethau roeddwn i’n meddwl oedd yn bwysig wrth ysgrifennu cymeriad fel Aniq.
4. Beth ddysgaist ti o’r profiad o gyfrannu at stori fel hyn?
Un o’r pethau dysgais o’r prosiect cyfan hwn oedd sut mae llyfrau a cyfres yn cael ei greu, o’r ysgrifennu i’r cyhoeddi, roedd y cyfan yn ddiddorol i mi. Dysgais lawer hefyd gan awduron a chyd-awduron eraill Y Pump, rydyn ni i gyd yn wahanol iawn mewn ffordd, ond daethom ni i gyd gyda’n gilydd a roedd gwrando arnyn nhw ac eu profiadau’n wych oherwydd ei fod wedi dangos y safbwyntiau a phrofiadau gwahanol mae pobl yn ei gael mewn bywyd.
Un o’r pethau pwysicaf dysgais o gyfrannu at y gyfres ac i Aniq yw pa mor bwysig yw sefyll dros yr hyn rydych chi’n credu ynddo. Dangosodd i mi fod cymaint o ffyrdd gwahanol y gallwch chi ddefnyddio’ch llais, er enghraifft trwy ysgrifennu neu protestio neu celf.
Sylweddolais fod ein cymdeithas yn cael ei hadlewyrchu yn yr holl wahanol bethau a diwydiannau sy’n bodoli ynddo, a bod ffyrdd i wneud newid trwy ddefnyddio’ch gwahanol gryfderau a sgiliau.
5. Mae siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn wyn yn y lleiafrif, fel y mae siaradwyr Cymraeg Mwslimaidd. Beth wyt ti’n feddwl sydd gennyt ti fel siaradwr Cymraeg i’w gynnig i Gymru a’r iaith Gymraeg?
Credaf y gallaf gyfrannu persbectif a chynrychiolaeth newydd trwy fy mhrofiadau a thrwy siarad Cymraeg. Yn y gorffennol rwyf wedi cael rhywun wedi synnu mewn ymateb o fi’n siarad yr iaith, siwr o fod gan rwyf yn rhan o gymuned lleiafrifol. Ond yn o gystal â bod yn Bacistani, rwyf hefyd yn Gymraes ac felly mae’n bwysig i mi berchnogi’r iaith a’i chario ymlaen.
6. Oes gen ti gynlluniau i ysgrifennu mwy yn y dyfodol? Beth yw dy obeithion i’r dyfodol?
Mae Y Pump yn bendant wedi fy ysbrydoli a gwneud i mi ystyried ysgrifennu mwy, ac ar hyn o bryd rwy’n 15, yn ffocysu ar y TGAU ac yn ysgrifennu ac ymarfer. Gobeithio yn y dyfodol byddaf yn ysgrifennu mwy a rwy’n gobeithio bydd y dyfodol yn un lle rydym yn gweld mwy o gynrychiolaeth mewn llenyddiaeth ac yn ein cymdeithas.