Elin Meek reads her adaptation of the very significant ‘Our House Is on Fire’; the story of Greta Thumberg, by Jeanette Winter.
Mae ein hinsawdd yn newid. Mae ein planed yn cynhesu. A wnawn ni rywbeth i’w atal cyn ei bod hi’n rhy hwyr? Mae un ferch ddewr yn mynnu hynny – ac mae hi’n ysbrydoli’r byd.
Gan y crëwr llyfrau lluniau clodwiw Jeanette Winter daw stori arwyddocaol a phwerus Greta Thunberg, yr actifydd hinsawdd un ar bymtheg oed sydd wedi sbarduno plant a phobl ifanc ledled y byd, ac sy’n mynnu bod arweinwyr y byd sy’n gwrthod mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, yn gweithredu cyn ei bod hi’n rhy hwyr.
Pan oedd hi’n bymtheg oed, esboniodd athrawes Greta Thunberg i’w dosbarth bod ein hinsawdd yn newid – mae’r ddaear yn cynhesu, mae’r capiau iâ pegynol yn toddi, a bywyd ar y ddaear dan fygythiad. Roedd Greta wedi ei syfrdanu. Beth allai hi ei wneud? Os na fyddai’r oedolion yn gwneud rhywbeth i achub y blaned, byddai’n rhaid i Greta ei hun i weithredu.
Llyfr lluniau arbennig iawn a fydd yn addysgu ac yn ysbrydoli darllenwyr ifanc sy’n dechrau dysgu am y byd o’u cwmpas.
Mae’r llyfr i gael o siopau llyfrau lleol. #WythnosSiopauLlyfrauAnnibynnol