The digital home of Welsh culture.

Lawnsio label newydd o Ddyffryn Nantlle

Heddiw mae Osian Cai a Hedydd Ioan yn lawnsio ei label newydd, INOIS. Mae’r ddau hogyn wedi bod yn ffrindiau ers yn ifanc yn tyfu fyny ym Mhenygroes ac wrth dyfu fyny wedi cychwyn cydweithio yn gerddorol ac erbyn hyn wedi penderfynu sefydlu label ei hunain. Yn dod o’r ysgol lle gafodd Y Reu a Topper ei gychwyn, a’r pentref sy’n cyn-gartref Recordiau Ankst, mae’r ddau yn gobeithio fydd INOIS yn parhau i roi Dyffryn Nantlle ar y map yn y sin gerddoriaeth Gymraeg. Mae’r ddau yn creu cerddoriaeth ei hunain ac yn mynd ei ryddhau drwy INOIS. Fe gychwynodd Cai (Osian) ryddhau senglau ac yna EP yn ystod y cyfnod clo, yn dangos swn bedroom pop cryf ac yn mynd ymlaen i ddangos ei weledigaeth mewn fideos cerddorol ryfedd a doniol. O gwmpas yr un cyfnod fe ennillodd skylrk. (Hedydd) cystadlaeth Brwydr y Bandiau a ryddhau ei sengl cyntaf yn dangos ei rap Cymraeg trawiadol. Mae’r ddau yn perfformio yn Maes B eleni ac yn methu disgwyl i ryddhau mwy. Yn ychwanegol mae INOIS wedi arwyddo ei artist cyntaf, band ifanc o Gaernarfon, Maes Parcio. Wedi bod yn gigio ers cwpwl o flynyddoedd ac yn barod i allu ryddhau ei swn punk Cymraeg i’r byd. Mae INOIS yn paratoi i ryddhau y senglau cyntaf a methu disgwyl i allu creu digwyddiadau yn lleol a’r gobaith i allu ffeindio fwy o dalent anhygeol i ddangos i’r byd.

“Mae’r cyfla i allu rhoi miwsig ein hunain allan ond hefyd cael y chance i weithio a dod i nabod fwy o artists yn amazing dwi’n meddwl. Y prif rheswm dwi’n meddwl odda ni isio cychwyn wbath felma oedd i gael mwy o fwrlwm a gigs o gwmpas ardal ni.”

Osian Cai, Un o sefydlwyr INOIS


“Mae INOIS er mwyn gallu ffocysu ar y gerddoriaeth, mae’r gair INOIS yn dod o’r hen Gymraeg am ‘Yn oes oesoedd’ felly yr holl syniad o INOIS ydi bod ni’n ceisio creu wbath sy’n mynd i fyw yn hirach na wythnos neu mis, ond creu cerddoriaeth a digwyddiadau fydd yn aros yn meddyliau pobl am amser hir.”

Hedydd Ioan, Un o sefydlwyr INOIS

“Dwi excited i rhoi miwsig newydd allan ar ôl 3 blwyddyn o ryddhau dim byd. Excited dangos be dani efo i rhoi i’r sîn roc”

Gwydion, Prif Leisydd Maes Parcio

“Ar ôl 2 flynedd mor anodd, ma’r sîn yn gofyn am wbath newydd i roi cyfleoedd i artistiaid llai adnabyddus – a pwy well ond dau artist efo profiad creadigol extensive sy’n gwbo be ma’n feddwl i weithio o’r gwaelod i fyny. Fedrai’m disgrifio pa mor gyffrous ydw i i gymryd mewn
taith ffres fel hyn.”

Owain, Drumar Maes Parcio

Mae INOIS newydd gael ei lawnsio a mae ac yn mynd i ryddhau ei sengl cyntaf yn ystod yr wythnosau nesaf, mae Maes Parcio yn perffmorio yn Gaernarfod ar Ddydd Sadwrn y 9fed o Orffennaf a mi fydd Cai a skylrk. yn perfformio yn Maes B.

SHARE