Mae Daf James yn un o ddramodwyr, sgriptwyr, cyfansoddwyr a pherfformwyr amlycaf Cymru. Yn ogystal â phortreadu’r cymeriad cerddorol ‘Sue’, Daf yw awdur y dramâu arloesol Llwyth a Tylwyth. Bydd ei gyfres ddrama Lost Boys & Fairies yn cael ei darlledu ar BBC1 yn 2024. Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i ŵr a’u tri phlentyn. Jac a’r Angel yw ei nofel gyntaf.
Mae Jac a’r Angel yn cynnwys darluniau gan Bethan Mai.