ATEBION RHWNG Y CLORIAU
Mae’r atebion i gyd rhwng cloriau’r rhifyn hwn o BARN dim ond i chi ddarllen yn ofalus.
Nid yw’r erthyglau o angenrheidrwydd yn ymddangos yn yr un drefn â’r cwestiynau.
Anfonwch eich atebion at
Swyddfa Barn, Y Llwyfan, Caerfyrddin SA31 3EQ gyda’ch enw a’ch manylion cyswllt,
neu at swyddfa@barn.cymru erbyn 4 Medi 2023.
Bydd yr atebion ac enw’r enillydd yn rhifyn Hydref.
1 Gerbron pa lys yr ymddangosodd is-bostfeistr o Fôn yn 2008?
2 Pwy sy’n cael ei ddilyn gan hyd at 50% o ddynion dan 40 oed?
3 Beth yw cyflog misol Aelod Senedd Ewrop cyn treth?
4 Pwy gafodd ei ‘saethu’ gan un o ymosodwyr Leeds United?
5 Pwy yw’r Aelod Seneddol o’r Alban a waharddwyd o San Steffan am 30 diwrnod?
6 Aros ar ba ffigwr ddaru chwyddiant ym mis Mai eleni?
7 Wyres pwy oedd Alabeina?
8 Pwy welodd eliffant ar garreg ei ddrws?
9 Pa gaffi a ysgogodd englyn gan Mei Mac?
10 Beth sydd gan y polisïau iaith mwyaf llwyddiannus?
11 Pwy ddywedodd nad oedd Cynan ‘yn hoffi Cymru’r oes hon ryw lawer’?
12 Pwy agorodd ddrws gorsaf yr heddlu Pwllheli i losgwyr yr Ysgol Fomio?
13 Pwy gynhyrchodd Dinas ym Mangor yn 1968?
14 Pwy ddaru fygwth cyfraith ar y cwmni a drefnodd ei daith i’r Wladfa?
15 Noddwr pa gymdeithas Lundeinig oedd yr Arglwydd Morris?
16 Pa wleidydd a bortreadwyd mewn cyfres deledu fel un ‘iasol o annynol’?
17 Pwy fyddai’n fodlon cyfnewid ei holl waith am un o gywyddau Dafydd Nanmor?
18 Gan bwy mae’r taid mwya cŵl yn y byd?
19 Faint o aelodau sydd gan grŵp Facebook Iaith?
20 Ym mha flwyddyn y cyhoeddwyd ‘Eifionydd’ R. Williams Parry am y tro cyntaf?