Ers ychydig o wythnosau roedd pŵer Angharad wedi tyfu o nerth i nerth.
Roedd hyn y golygu bod Angharad yn gallu troi i fod yn rhywbeth neu rywun gwahanol sawl tro mewn un diwrnod ac am gyfnodau llawer hirach. Yn ddiweddar, roedd Angharad wedi troi i fod yn aderyn – yn benodol robin goch – teirgwaith bob dydd. Unwaith bob amser egwyl, unwaith bob amser cinio, ac unwaith ar ôl i’r gloch olaf ganu am y diwrnod.
Er nad oedd ei phŵer gwreiddiol yn gysylltiedig yn uniongyrchol â hedfan, roedd Angharad wedi darganfod ffordd o wireddu ei breuddwydion a’r gallu i hedfan mor aml â phosib. Bellach, roedd yn well gan Angharad adar na chathod.
Wrth hedfan un diwrnod o gwmpas cae chwarae’r ysgol yn ystod amser egwyl, sylwodd Angharad ar Aled, Noa ac Osian yn taflu pêl rygbi. Clywodd Angharad ei henw yn dod o geg Noa felly hedfanodd ychydig yn agosach at y bechgyn i glywed mwy.
“Ti’n ffansio hi!” bloeddiodd Noa.
“Www Aled ac Angharad yn eistedd mewn coeden…” canodd Osian.
“Stopiwch!”
“Ond go iawn, wyt ti am neud unrhyw beth ynghylch y peth? Achos ti RILI angen stopio syllu arni bob gwers heb siarad gyda hi!” dwedodd Osian gan synnu’r bechgyn eraill. Roedd Osian erioed wedi dweud unrhyw beth mor gall yn ei fywyd.
“Ydw. Ond fi’n aros am yr amser cywir. Mae gormod o bethau’n mynd ymlaen ar hyn o bryd…” eglurodd Aled.
Fel robin goch o hyd, cochodd Angharad gan deimlo’i bochau’n adlewyrchu lliw coch ei brest. Yn frysiog, hedfanodd i’w chuddle tu ôl y cabannau i newid yn ôl i edrych fel hi ei hun.
Roedd hi’n methu credu’i chlustiau. Roedd Aled yn ei FFANSIO?!
Gyda phopeth a oedd yn mynd ymlaen ym mywyd Angharad yn ddiweddar, roedd clywed bod Aled yn ei ffansio yn un o’r pethau gorau a oedd wedi digwydd iddi ers tro byd. Un o’r pethau gorau arall i ddigwydd iddi oedd ennill cystadleuaeth wyddoniaeth ar draws Gymru gyfan a chael cwrdd â gwyddonydd gorau’r wlad, a oedd yn digwydd bod yn fenyw hefyd! Roedd ennill y gystadleuaeth honno llynedd yn brofiad bythgofiadwy a’n curo’r newyddion cudd bod Aled yn ei hoffi HOFFI… ond dim ond gan drwch blewyn.
***
Roedd yr athrawes wyddoniaeth newydd yn… RHYFEDD. Doedd hi dim byd tebyg i’r athro blaenorol. Byddai Mr Gwyn yn cynnal arbrawf bob gwers, yn gwisgo cot wen i bob man, ac yn siarad mewn brawddegau hir.
Roedd Miss Daniels ar y llaw arall i’r gwrthwyneb. Doedd hi heb gynnal yr un arbrawf dros y pedair wythnos diwethaf, roedd hi byth yn gwisgo’i chot wen, ac roedd Angharad heb glywed mwy na phum gair yn dod allan o’i cheg i greu’r un frawddeg fer.
Ond yn waeth na hynny, roedd hi’n casáu Angharad, Aled ac Anni.
Pam? A sut? Doedd Angharad ddim yn hollol siŵr.
Ar fwy nag un achlysur roedd Miss Daniels wedi targedu Angharad, Aled ac Anni yn unigol am resymau gwahanol. Un tro, cododd Angharad ei llaw i ateb cwestiwn a phan holodd Miss Daniels am ei hateb roedd Angharad methu siarad! Doedd dim sŵn yn dod o’i cheg! Am ychydig o eiliadau roedd Angharad yn edrych fel pysgodyn allan o ddŵr gyda’i cheg yn agor a chau heb yr un smic yn dod ohoni. Syllodd pawb ar Angharad yn gegrwth.
“Gwastraffu amser unwaith eto, Angharad!” ochneidiodd Miss Daniels.
“Er mwyn dysgu gwers i ti, na’i wastraffu dy amser di ac amser pawb arall ar dy fwrdd amser egwyl a chinio heddiw.”
Dim ond Aled ac Anni a oedd yn eistedd ar fwrdd Angharad ac roedd y tri ohonynt, unwaith eto, yn teimlo fel eu bod yn cael eu targedu am ddim rheswm.
“Sori! Fi wir ddim yn gwybod beth ddigwyddodd. O’dd e’n teimlo fel bod rhywbeth yn dal fy ngeiriau yn ôl a bod dim rheolaeth gennyf dros fy llais! Mor od!” sibrydodd Angharad ei hymddiheuriad wrth Aled ac Anni.
Tra roedd pawb arall yn edrych yn syn ar geg Angharad yn agor â chau fel pyped, roedd Aled ac Anni wedi troi i edrych ar Miss Daniels.
Roedd ffroenau Miss Daniels wedi ehangu, ei llygaid wedi troi yn ddau smotyn du, ac roedd ei gwefus gwaelod wedi dechrau crynu…
Roedd rhywbeth rhyfedd dros ben ynghylch Miss Daniels!
***
O ran rhieni Angharad; roedd ei mam, menyw weddol byr a fyddai’n dwrdio Angharad am gnoi ei hewinedd ond a oedd yn cnoi ei hewinedd ei hun yn gyfrinachol, a’i thad, dyn weddol byr a oedd yn hoffi dweud wrth bobl ei fod o leiaf dwy fodfedd yn dalach na’r gwir, yn llwyr anymwybodol o’i phŵer.
Pe byddai Angharad yn teimlo’i hun yn dechrau troi i edrych fel rhywun neu rywbeth gwahanol byddai’n rhedeg i’w hystafell wely a chuddio yno nes i’r teimlad basio.
Roedd ei rhieni yn amlwg wedi bod yn poeni amdani dros y misoedd diwethaf a’r holl amser roedd Angharad yn dueddol o dreulio yn ei hystafell wely.
“Yw popeth yn iawn? Ti’n treulio llawer o amser yn dy ystafell wely dyddiau yma,” byddai mam Angharad yn dweud bob am yn ail ddiwrnod.
Esgus Angharad oedd bod llawer o waith cartref ganddi, a oedd yn esgus digon gredadwy.
Un noson, wrth i’r tri eistedd o amgylch bwrdd y gegin ar ôl swper, holodd Angharad i’w rhieni, “Ydych chi’n gwybod unrhyw beth am fy rhieni geni?”
Roedd Angharad erioed wedi holi am ei rhieni geni o’r blaen. Doedd dim rheswm neu angen iddi holi amdanynt gan fod ganddi’r rhieni gorau yn y byd. Ond ers i Mr Arwyn sôn amdanynt roedd ei chwilfrydedd wedi’i bigo.
“Dwyt ti ddim i fod i wybod hynny tan dy fod yn ddeunaw. Ti’n gwybod hynny,” eglurodd ei mam.
“Pam wyt ti’n holi nawr?” gofynnodd ei thad.
Ochneidiodd Angharad. Roedd ei rhieni, fel rhan fwyaf o oedolion eraill y byd, yn hoff o feddwl eu bod nhw’n gwybod yr ateb cywir i bob dim.
Ers y cyfarfod cyntaf yn swyddfa Mr Arwyn doedd dim smic wedi bod am rieni geni Angharad, Aled ac Anni. Ar ôl dros fis o aros, roedd Angharad wedi cael llond bol.
“Gwers hanes. Fel rhan o’r gwaith cartref mae’n rhaid i ni greu ein coeden teulu. Dwi eisiau creu dwy goeden.”
Synnodd Angharad ar ba mor rhwydd roedd y celwydd wedi rholio allan o’i cheg. Synnodd hyd yn oed yn fwy pan sylwodd roedd ei mam a’i thad wedi’i chredu.
Edrychodd ei mam a’i thad ar ei gilydd yn betrusgar. Roedd y rheolau’n llym iawn ac roedd y tri ohonynt yn ymwybodol o’u dwyster. Pan roedd Angharad yn fach, eglurodd ei rhieni wrthi eu bod wedi ei mabwysiadu a bod yna becyn iddi gan eu rhieni geni pan fyddai’n troi’n ddeunaw. Ond doedd y rheolau ddim wedi cynnwys rhywbeth a ddaeth trwy’r post i Angharad ar ddiwrnod ei phen-blwydd yn dair ar ddeg.
Roedd yr amlen yn goch gyda llaw ysgrifen flêr ei mam geni drosti. Cyn i Angharad gael cyfle i bendroni ai llawysgrifen naturiol ei mam geni ydoedd yntau ai ei gorfodi i ysgrifennu ar ras oedd canlyniad y geiriau cam, roedd ei mam wedi rhwygo’r amlen o’i gafael.
Wedi adnabod y llawysgrifen, eglurodd ei mam y dylent gadw’r amlen gyda’r pecyn. Yn saff yn yr atig. Nes ei phen-blwydd yn ddeunaw, mewn pum mlynedd yn union.
Ond heddiw, yn ôl wrth ymyl bwrdd y gegin, roedd mam a dad Angharad yn teimlo trueni drosti. Merch glyfar, annibynnol, caredig a doniol nad oedd yn cael gwybod dim am ei hanes tan iddi droi’n ddeunaw.
“Gallwn ni hôl yr amlen iddi. Doedd yr amlen ddim yn rhan o’r rheolau gwreiddiol,” cynigodd ei thad.
Syllodd ei mam yn syth at fyw llygaid Angharad. Yn sydyn, teimlodd Angharad yn benysgafn. Roedd pethau am newid unwaith eto a doedd hi ddim yn hollol siŵr a oedd hi’n barod.
Atseiniodd y geiriau nesaf o geg ei mam o gwmpas y gegin fel gêm o dennis fwrdd di-ddiwedd.
“Iawn. Ond dyw e ddim yn stori hapus…”