Wrth i’r tri adael y gampfa goll a cherdded ar hyd y coridor tywyll i brif adeilad yr ysgol, trodd Aled at Angharad gan ddweud ei fod e’n hoffi gwylio Supergirl ar ôl ysgol hefyd. Cochodd Angharad wrth sylweddoli fod Aled wedi darllen ei meddwl a’i fod yn gwybod un o’i chyfrinachau. Cochodd Angharad hyd yn oed yn fwy fyth wrth feddwl am yr holl bethau eraill byddai Aled wedi gallu eu darllen. Gan gynnwys ei hoffter hi tuag ato!
Sylwodd Aled ar fochau coch Angharad a dwedodd yn frysiog,
“Sori, addo na’i ddim darllen dy feddwl eto. Ar hyn o bryd mae pethau’n ymddangos yn fy meddwl heb fy nghaniatâd.”
Gwelodd Angharad fod bochau Aled bellach wedi cochi hefyd, felly gwenodd arno’n swil a’i gysuro trwy ddweud bod popeth yn iawn gan nad oedd hithau gydag afael llwyr ar ei phwerau ei hun eto chwaith.
Roedd Aled yn ddiolchgar dros ben nad oedd Angharad wedi gwylltio. Yn ystod y wers yn y gampfa goll, pan gynigodd Aled ei law i Angharad, clywodd Aled llais Angharad yn ei feddwl. Roedd y llais hwnnw’n gorchymyn i’w chalon dawelu. Cymrodd ychydig o eiliadau i Aled ddeall beth roedd Angharad yn ei olygu trwy ddweud y fath beth. A oedd Angharad Mair Elis yn hoffi Aled?! A oedd breuddwydion Aled wedi dod yn wir?! Bod y ferch fwyaf glên, hyfryd, clyfar, doniol a phert o flwyddyn wyth Ysgol Tir Na Nog yn ei hoffi?!
Oherwydd y neges sydyn honno a grwydrodd o feddwl Angharad i feddwl Aled, penderfynodd Aled ei fod am wneud ymdrech i ddod i nabod Angharad hyd yn oed yn well – gan ddechrau gyda rhywbeth roedd y ddau ohonynt yn hoffi’n fawr, y gyfres Supergirl. Wrth i’r tri gyrraedd prif adeilad yr ysgol, diolchodd Aled mai darllen meddyliau oedd ei bŵer.
***
Aeth y dydd Mercher hwnnw rhagddi fel unrhyw ddydd Mercher arall yn yr ysgol – yn ARAF dros ben. Heblaw amser egwyl ac amser cinio, hedfanodd amser egwyl a chinio wrth gwrs, a chyn pen dim roedd y tri yn ôl yn eu gwersi. Ond roedd y diwrnod wedi mynd hyd yn oed yn fwy araf i un o’r tri, sef Anni.
Oedd, roedd Anni yn casáu ei phŵer. Teirgwaith o fewn yr un drafodaeth gyda’i ffrindiau yn ystod yr awr ginio, roedd rhannau gwahanol o gorff Anni wedi diflannu. Y peth gyntaf i ddiflannu oedd ei bys bach ar ei llaw dde, a oedd wedi penderfynu diflannu am funud gyfan. Unwaith i’r bys bach hwnnw ail ymddangos, diflannodd ei throed chwith yn gyfan gwbl. Ond lwcus i Anni roedd ei bag wrth law i’w guddio. Yna, diflannodd ei phen, ond diolch byth daeth Angharad draw i’w hachub gan sefyll o’i blaen a’i chuddio nes i’w phen ail ymddangos!
Roedd ffrindiau Anni, fel Beca a Hanna, wedi dechrau sylwi pa mor agos roedd Anni bellach gydag Angharad ac roedd sawl un ohonynt yn genfigennus. Doedd y criw o ffrindiau ddim yn deall pam byddai rhywun fel Anni yn siarad gyda rhywun fel Angharad. Yn ystod amser cinio y diwrnod hwnnw, deallodd Anni nad ‘ffrindiau’ go-iawn oedd y criw yma o ferched ond pobl a oedd yn defnyddio merched eraill er mwyn eu hanghenion hunanol. Addawodd Anni wrthi hi ei hun y byddai’n gwneud yn siŵr na fyddai’r criw yma o ferched yn gas i Angharad byth eto.
Ers y wers yn y gampfa goll gyda Mr Arwyn roedd y tri ohonynt – Angharad, Aled ac Anni – wedi eu rhoi yn nifer o’r un gwersi. Yn ôl Mr Arwyn, y rheswm dros hyn oedd er mwyn rhoi’r cyfle i’r tri ddod i nabod ei gilydd yn well. Yn ôl Mr Arwyn, roedd hi’n ofnadwy o bwysig i’r tri ddysgu i weithio fel tîm, yn barod at pan fydd y galw’n codi i’r tri ddefnyddio’u pwerau. Er doedd dim un o’r tri’n gwybod yn iawn pa fath o broblem a fyddai’n golygu eu bod nhw’n cael defnyddio’u pwerau’n gyhoeddus! Yn fwy na hynny, roedd Angharad, Aled ac Anni yn tybio bod yna reswm arall dros roi’r tri ohonynt yn yr un gwersi… ac roedd y tri ohonynt yn gywir. Roedd y tri ohonynt hefyd yn gywir i feddwl bod y rheswm yn rhywbeth i wneud gyda’u rhieni coll.
Yn ddiarwybod iddynt roedd Mr Arwyn yn poeni bod yr athrawes wyddoniaeth newydd, Miss Daniels, wedi derbyn y swydd yn Ysgol Tir Na Nog am y rhesymau anghywir…