The digital home of Welsh culture.

Disgyblion A: Pennod 3 – Beth yn y Byd?!

Deffrodd Aled mewn llawenydd. Roedd y cur pen afiach wedi cilio – o’r diwedd! Ond wrth i Aled godi i’w eistedd ar ei wely, sylwodd nad oedd ei ben yn hollol iawn. Roedd Aled yn cael anhawster i egluro beth yn union a oedd o’i le gyda’i ben. Doedd ei ben na’i feddwl yn teimlo’n…llonydd.

Cerddodd Aled draw at yr ystafell ymolchi i archwilio’i hun yn y drych crwn ar ben y sinc. Wrth iddo gerdded draw at yr ystafell ymolchi sylwodd fod ei ben a’i feddwl yn teimlo’n llawn. Roedd cymaint o sŵn a chlebran yn mynd ymlaen yn ei ben, bron digon i wneud Aled boeni bod y cur pen am ddychwelyd.

Unwaith iddo gyrraedd yr ystafell ymolchi, caeodd Aled ei lygaid. Dechreuodd Aled boeni y byddai rhywun neu rywbeth ofnadwy’n syllu’n ôl o’r drych arno. Pipiodd Aled ar ei edrychiad yn nerfus a gollyngodd ochenaid o ryddhad. Diolchodd i ryw Dduw nad oedd e wir yn ei gredu bod ei bŵer heb newid ei edrychiad. Er, roedd Aled wedi hanner gobeithio y byddai’n derbyn pŵer a fyddai wedi ei wneud yn eithriadol o gryf gan roi cyhyrau enfawr iddo. Ond yn lle, fel bob tro, roedd Aled yn cael trafferth i droi tap cynnes y sinc ymlaen am ei fod mor stiff. Ochneidiodd Aled wedi’i siomi. Digalonnodd wrth feddwl ni fyddai’n gallu taflu’r gwrthwynebwyr o’r ffordd gyda’i gryfder anhygoel yn y gêm rygbi nesaf!

Dechreuodd feddwl Aled grwydro at Angharad ac Anni a fyddai wedi deffro gyda’u pwerau newydd. Doedd Aled ddim yn hollol siŵr beth yn union oedd ei bŵer eto. Yr unig beth roedd Aled yn sicr ohono oedd bod Mr Arwyn wedi dweud celwydd. Er bod y cur pen gwreiddiol wedi cilio roedd pen Aled yn dal i frifo.

Yna, clywodd Aled lais ei lystad yn gweiddi bod swper yn barod.

Bownsiodd Aled i lawr y grisiau. Doedd y sleis o pizza, dogn o sglodion a sgwâr bach o brownie heb gadw Aled yn llawn am sbel. Roedd e’n edrych ymlaen at swper a sgrechiodd bol Aled mewn llawenydd pan glywodd yr arogl a oedd yn chwyrlio o’r gegin. Roedd yr awyr yn arogli fel ei hoff bryd o fwyd, sef lasagne.

Ond, er mawr syndod i Aled, doedd y lasagne ddim ar y bwrdd yn barod i’w sglaffio.

“O’n i’n meddwl ’wedes di bod bwyd yn barod?” holodd Aled.

“Naddo, ’nes i ddim dweud yr un gair. Ond o’n i am dy alw lawr yn yr eiliadau nesaf yma. Bron fel dy fod di wedi darllen fy meddwl, Aled” dywedodd ei lystad gan chwerthin.

Yr eiliad honno, deallodd Aled beth oedd ei bŵer a pham roedd ei ben yn teimlo’n rhyfedd o hyd. Roedd Aled yn gallu darllen meddyliau pobl.

Roedd hyn am fod yn hwyl…

***

Deffrodd Anni yn hapus. Roedd ei phen yn teimlo can gwaith yn well – hwrê! Ond cyn iddi ymlacio’n llwyr, cofiodd yn sydyn am y pŵer newydd roedd hi bellach wedi ei feddiannu.

Cododd o’i gwely a cherddodd yn frysiog draw at ei desg ymbincio. Ers i Mr Arwyn gyhoeddi bod y tri ohonynt am dderbyn pwerau roedd Anni wedi gobeithio y byddai’n gallu hedfan neu wneud i bethau hedfan fel Mr Arwyn. Roedd Anni’n gyffrous dros ben i weld beth oedd ei phŵer newydd…

“BETH YN Y BYD?!” sgrechiodd Anni.

Roedd Anni wedi…DIFLANNU!

Roedd Anni wedi diflannu a dim ond ei gwisg ysgol oedd ar ôl i’w gweld yn adlewyrchiad y drych. Roedd ei dwylo, ei choesau, ei thraed, ei gwallt a’i choesau i gyd wedi diflannu yn adlewyrchiad y drych!

Doedd dim modd i Anni fynd i’r ysgol fel hyn yfory – yn anweledig! Yn fwy na hynny, sut byddai Anni’n gallu mynd lawr grisiau a chael swper gyda’i mam-gu a thad-cu? Yn ANWELEDIG?!

Penderfynodd Anni yn y fan a’r lle bod derbyn pŵer ddim yn rhywbeth hwyl o gwbl. Pam roedd angen iddi fod yn anweledig?! Byddai’r gallu i hedfan wedi bod yn llawer gwell.

Roedd ysgol yfory am fod yn ddiddorol…

SHARE