Canodd gloch olaf y dydd a rhuthrodd holl ddisgyblion Ysgol Tir Na Nog allan trwy’r gatiau. Aeth Aled yn syth at safle bysiau’r ysgol a phentyrru ar y bws gydag Osian a Noa gan fachu eu seddu arferol. Roedd y siwrnai’n teimlo’n hirach na’r arfer ac roedd Aled yn cael trwbl gwrando ar ei ddau ffrind yn tynnu’i goes. Prif jôc y siwrnai oedd dwylo llithrig Aled, a’r ffaith iddo ollwng y bêl mwy o weithiau nag iddo’i dal yn ystod yr ymarfer rygbi amser cinio.
Unwaith i’r bws gyrraedd stop Aled a’i ffrindiau, neidiodd Aled oddi ar y bws heb ffarwelio’n iawn gydag Osian a Noa, a rhuthrodd am adref heb edrych yn ôl. Gadawodd Osian a Noa yn sefyll mewn penbleth ar gornel y stryd yn methu deall pam fod Aled wedi’u gadael ar gymaint frys.
***
Fel bron bob diwrnod, rhedodd Angharad adref. Doedd dim un o’i ffrindiau’n cerdded yr un ffordd â hi felly doedd dim rheswm gan Angharad i gerdded adref. Roedd yna wahaniaeth mawr rhwng rhedeg yn y gwersi ymarfer corff a rhedeg y pum munud adref o’r ysgol. Y prif wahaniaeth oedd yr hyn â oedd yn disgwyl amdani ar ôl y rhedeg. Ar ôl rhedeg am awr yng ngwersi ymarfer corff yr ysgol, yr unig beth a oedd yn aros amdani oedd diwrnod hir o deimlo’n chwyslyd, gwallt blêr a bochau coch. Ar ôl rhedeg y pum munud am adref, yr hyn a oedd yn aros amdani oedd ei hoff raglen deledu (Supergirl – fel Superman ond gyda merch glyfar a chryf sy’n achub y byd!), soffa cyfforddus a llond plât o fisgedi. Roedd y gwahaniaeth yn eithriadol.
Ond, nid rhedeg er mwyn cyrraedd y soffa gyfforddus mewn pryd i wylio’i hoff raglen deledu oedd Angharad y tro yma. Yn lle, rhedeg er mwyn gwneud yn siŵr ei bod hi’n barod at beth bynnag a fyddai’n digwydd am hanner awr wedi tri. Unwaith i Angharad agor drws ei thŷ gyda chlec, rhedodd yn syth am ei hystafell wely.
***
Heddiw oedd y tro cyntaf erioed i Anni gerdded adref o’r ysgol ar ei phen ei hun. Dwedodd gelwydd llwyr wrth ei ffrindiau er mwyn gallu cerdded ar ei phen ei hun heb dynnu gormod o sylw. Dywedodd ei bod hi angen mynd i’r tŷ bach felly, yn lle galw yn y siop losin ar y ffordd adref fel gweddill ei ffrindiau, brasgamodd am ddiogelwch ei thŷ heb edrych yn ôl.
Gyda llaw crynedig, trodd Anni’r allwedd yn nrws ei thŷ a rhuthrodd am ei hystafell wely heb ddweud yr un smic wrth ei mam-gu a thad-cu a oedd yn eistedd yn y lolfa’n darllen y papur newydd. Caeodd drws ei hystafell wely gan dynnu’i desg i bwyso yn erbyn y drws. Roedd Anni’n casáu’r ffaith nad oedd ganddi glo ar ddrws ei hystafell wely fel un Beca. Ond dyna oedd y broblem gyda byw o dan yr un to â’i mam-gu a thad-cu; pobl a oedd yn meddwl bod afal yn rhywbeth i’w fwyta’n unig.
***
O’u hystafelloedd gwely, dechreuodd y tri ohonynt gyfri lawr y munudau at y eiliad dyngedfennol. Roedd deg munud i fynd tan iddi fwrw hanner awr wedi tri. Roedd y tri ohonynt yn eistedd yn eiddgar ar eu gwlâu ddim yn gwybod beth yn union i’w ddisgwyl, ond yn edrych ymlaen at y cur pen i gilio. Yr eiliad honno, sylwodd y tri ohonynt pa mor unig yr oeddent yn ei deimlo. Doedd neb o gwmpas a oedd yn deall y sefyllfa i gynnig cysur. Dim un rhiant i gynnig cwtsh. Yn ddiarwybod iddynt, ochneidiodd Angharad, Aled ac Anni mewn unsain o’u hystafelloedd gwely. Roeddent yn ocheneidio oherwydd bod eu bywydau mor annheg.
Dim ond pum munud oedd ar ôl.
Unwaith eto y diwrnod hwnnw, dechreuodd Angharad chwarae gydag edafedd ei siwmper ysgol. Dechreuodd Aled ysgwyd ei goesau a dechreuodd Anni chwarae gyda’i gwallt hir.
Un munud i fynd.
Teimlodd Angharad ei bol yn troi. Diflannodd y wên ar wyneb Aled. Dechreuodd dwylo Anni chwysu hyd yn oed yn fwy.
5 eiliad i fynd.
4…3…2..1.
Am hanner awr wedi tri yn union, ar y trydydd o Fedi dwy fil a thrideg tri, ciliodd cur pen Angharad, Aled ac Anni fel parti cyd-adrodd yn gorffen adrodd cerdd hir.
Ond cyn i’r un ohonynt lwyddo codi o’u gwlâu, yn eu tro, trodd y byd yn ddu…