The digital home of Welsh culture.

Cystadleuaeth Stori Sebra

Literature

Oes gen ti stori unigryw i’w rhannu gyda ni?

Dyma alw ar awduron newydd i gymryd rhan yng nghystadleuaeth ysgrifennu stori fer Stori Sebra!

I ddathlu ein gwasgnod newydd, rydyn ni’n lansio cystadleuaeth ysgrifennu stori fer. Dyma gystadleuaeth i awduron newydd i gyfansoddi straeon byrion gwreiddiol, dim mwy na 3,000 gair, ar thema ‘Hunaniaeth’ neu ‘Rhyddid’.

Rydyn ni eisiau straeon darllenadwy a chyffrous am bynciau cyfoes sy’n trafod byw a bod fel unigolyn yn y Gymru fodern. Beth yw nodweddion arbennig prif gymeriad neu gymeriadau dy stori? Sut maen nhw wedi torri’n rhydd, o ddisgwyliadau cymdeithasol neu ddiwylliannol o bosib?

Mae’r themâu hyn yn fwriadol eang er mwyn i ti fedru cyflwyno dy stori di heb rwystrau. Rydyn ni eisiau gwaith unigryw a ffres sy’n gwthio’r ffiniau ac a fydd yn ysgogi trafodaethau ehangach.

Beirniad y gystadleuaeth fydd yr awdur, y dramodydd, a’r darlithydd Gareth Evans-Jones. Yn ddiweddar, mae Gareth wedi gweithio ar brosiectau amrywiol sy’n ymwneud â hunaniaeth. Er enghraifft, bu’n rhan o gyfres o sgyrsiau ar-lein ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n trin a thrafod Hunaniaethau: Cymreictod.

Yn ogystal, llynedd, bu’n rhan o brosiect Gwrthbwynt/Counterpoint Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau. Fel rhan o’r gwaith hwnnw, bu’n cydweithio â dau fardd, un o Wlad Pwyl a’r llall o Tsiecia, yn archwilio ymfudo drwy farddoniaeth.

Bydd tair gwobr ariannol o £200 am y tair stori orau. Bydd cyfle arbennig hefyd i gael dy waith wedi ei gyhoeddi mewn cyfrol o straeon byrion gan wasgnod Sebra, yng nghwmni awduron arbennig eraill, yn cynnwys Gareth Evans-Jones.

SHARE