The digital home of Welsh culture.

Blaenllanw – Meinir Roberts

Literature

Blaenllanw – Ysbrydoliaeth y Siwmper

Rwyf ers blynyddoedd wedi bod yn ymchwilio mewn i batrymmau siwmperi gwlân wedi eu gwneud yng Nghymru, ond hyd yn hyn wedi methu dod o hyd i ddim.
Yr agosaf dw i wedi dod i gael hyd i rhywbeth yw safle Borth, Aberystwyth mewn lluniau capteiniaid môr. Mae yna un dyn, John Williams, yn gwisgo siwmper ac mae hi yn ymddangos fod yna gysylltiad teuluol yn rhywle gyda ochor fy nhaid ar ochor fy mam oedd yn dod o Borth.
Mae traddodiad yn gallu dechrau rhywdro ac mi rydwi wedi bod yn meddwl cynllunio siwmperi ers tro. Beth am bererindod y siwmper?
Mae dechrau fy nhaith gyda’r defaid yn Nhanrallt, Llangian o gael eu geni, magu , a’u cneifio i gael y cnu sydd wedi cael ei yrru i ffwrdd i wneud y gwlân ( ynghyd â pheth gwlân o Tan Y Bryn, Garnfadryn) i wneud y dafedd fyddai yn ddefnyddio i greu’r siwmper.
Mae ysbrydoliaeth gwaelod y siwmper yn dod o fat llawr tŷ yn Enlli sydd wedi cael ei wneud gyda llaw allan o hen raffau. Mae adrannau yma hefyd sy’n adlewyrchu’r diwydiant pysgota. Mae’r darnau nesaf yn cynrychioli’r Swnt, y tonnau, cerrynt a’r patrymau sy’n cael eu creu.
Elfen arall sydd ysbrydoli’r siwmper yw un o adeiladau mwyaf unigryw yr ynys sef y goleudy. Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu yn mis Ebrill 1821 gan ddefnyddio setiau o Draeth Coch, Sir Fon. Roedd y setiau yn cael eu glanio gyda cwch a’i symud i safle’r goleudy gyda cheffylau a cae llusg. Cafodd ei gwbwlhau ym mis Awst a cafodd ei oleuo am y tro cyntaf ar 21/12/1821 sef dau gan mlynedd i eleni.
Mae yna 100 awr o weu yn y siwmper.
Mae tua 80,000 o bwythau a bob un wedi eu cofnodi.


Jympyr Teaser #2 from Euron Jones Film & Photography on Vimeo.

SHARE