Fel tafliad hiraethus i amseroedd gwell, mae’r trac hwn yn sgrechian synau cyfarwydd y 90au. Fel nifer o draciau llwyddianus y gorffenol, mae’r grandawiad cyntaf yn swno’n syml – ond fel gobstopper di-ddiwedd, mae pob gwrandawiad yn datgelu nifer o manylion nodedig ac offeryniaeth gyffrous.
Mae drymiau haenog syml yr ugain eiliad cyntaf yn osod yr olygfa am y trac trippy, hudolus yma, a mae ychwanegiad y bas yn ei wneud yn amhosib i beidio ysgwyd eich phen. Mae cyflwyniad y llais garw yn cyferbyniad braf yn erbyn cefndir ysgafn yr gitar. Wrth i’r trac fynd yn ei flaen, mae nifer o offerynnau newydd yn cael eu hychwanegu’n gyson, yn cymysgu i ffurfio seinwedd hudol.
Yr unig feirniadaeth yw bod y can yn dechrau ymddangos yn ailadroddus – ond bod hyn yn cael ei osgoi’n dda gan ychwanegiad yr unawd amherffaith gitâr, yn torri’r gadwyn. Mae’n hawdd dweud bod y grŵp hwn wedi ymgartrefu’n gyfforddus at Recordiau Libertino, gyda’r trac hwn yn ymuno ai ganeuon Pharti Grwndi, Twti Ffrwti a Nofio Efo’r Fishis yn ei gatalog cofiadwy.