Un o griw’r Pump ydy Aniq ac yn y nofel hon profwn wead ei bywyd, o’r mynwesol i’r cythryblus. Mae hollt amlwg rhwng yr Aniq yn yr ysgol ymysg ei ffrindiau a’r Aniq gartref gyda’i theulu. Y lle ‘lle ma bob dim yn neud sens’ ydy’r ysgol, ac ar ôl profedigaeth, lle i’w oddef yn unig yw ei chartref. Mae’n amlwg o’r dechrau’n deg bod gan Aniq ffordd hylifol o edrych ar y byd, gan iddi gwestiynu a oes rhaid i adra fod yn lle diriaethol o gwbl — mae’r ymdeimlad o ‘adra’ yn fwy effro iddi lle mae ei ffrindiau’n bresennol, a dyna fo.
Mae’r awdur yn llwyddo i drafod themâu pwysig mewn modd sy’n eangfrydig ac yn sensitif, ac rwy’n edmygu hynny’n fawr. Gwelwn sut mae galar yn taro’i gysgod dros sawl agwedd ar fywyd a’r effaith seismig a ddaw o golli câr. Llwydda’r awdur i ddal y cwbl yn ofalus, ac mae ei disgrifiadau o frath hiraeth yn ddigon i fynd â’ch gwynt. Teimlais fod cyfeillgarwch y Pump yn cynnal y nofel ac yn bwysicach fyth, yn cynnal Aniq ei hun. Dotiais at y ffraethineb a’r dealltwriaeth rhwng Aniq a Robyn, a braf yw gweld bod Robyn yn chwistrelliad o hyder i Aniq pan mae ei phryder yn bygwth cael y llaw uchaf arni.
O ran arddull, mae disgrifiadau’r awdur yn delynegol – o’u plith, mae’n cymharu yfed te ag ‘yfed melfed. Fel llyncu ochenaid o ryddhad.’ Maen nhw’n gymariaethau ysgafn a hyfryd sy’n llifo’n ddigymell drwy’r nofel, a daliais fy hun yn eu hailddarllen drwodd a thro. Cawn hefyd ddisgrifiadau mwy miniog o themâu megis Islamoffobia a gorbryder a’u gwirioneddau hyll. Mae Aniq yn un sy’n dioddef pyliau o banig, a rhaid brolio’r awdur am ei gallu i ddal y profiad – y pinnau bach yn pigo, pigo a’r chwys oer. Dyma ddisgrifiadau sy’n priodi’r profiad gwirioneddol ac felly, llwydda i wneud cyfiawnder llwyr â gorbryder.
Mae’r nofel hon yn bwysig. Mae’r gyfres hon yn bwysig. Mae llais Aniq yn un lliwgar, amheuthun ac yn un sy’n haeddu pob gwrandawiad — darllenwch yn llu.
Mae Aniq gan Marged Elen Wiliam gyda Mahum Umer ar gael nawr am £5.99 (Y Lolfa), ac yn rhan o set focs cyfres Y Pump am £25.